Mae trefnwyr Gŵyl y Gogs, a gynhelir yn Y Bala, wedi cyhoeddi bod tocynnau’r digwyddiad bellach ar werth.
Penwythnos 1-2 Mai ydy dyddiad yr ŵyl eleni ac mae’r trefnwyr eisoes wedi datgelu enwau nifer o’r artistiaid sy’n perfformio gan gynnwys Eden, Celt, Meinir Gwilym, Candelas, Huw Chiswell, Daniel Lloyd a Mr Pinc, Taran, Cordia a TewTewTennau.
Mae tocynnau’r nosweithiau unigol ar werth nawr am £16 a £18 neu mae modd prynu tocynnau penwythnos am £28.