Dagrau yn dychwelyd gyda ‘Hypercube’

Prosiect unigol y cynhyrchydd a’r cyfansoddwr Llion Robertson, sy’n adnabyddus am ei waith gyda Siula a Cotton Wolf, yw Dagrau ac mae wedi rhyddhau ei sengl newydd, ‘Hypercube’ ers 22 Medi.

Mae ‘Hypercube’ yn dod â Llion Robertson ac Iqra Malik yn ôl at ei gilydd, ar ôl iddyn nhw weithio fel y ddeuawd Siula yn y gorffennol. Eu halbwm ‘Night Falls on the World’ yn 2025 oedd y cynnyrch diweddaraf ganddynt fel Siula.

Dechreuodd y trac gyda neges lais tair munud o hyd a recordiodd Iqra ar draeth yng Ngwlad Thai tua thri o’r gloch y bore.

“Roedd e’n llif pur o alaw reddfol, ond roedd un darn bach iawn yn y canol, tua phum eiliad o hyd, oedd wir yn sefyll allan. Fe wnes i ei dorri lan, creu dwy alaw ohono, ac wedyn adeiladu’r trac cyfan o gwmpas hynny.”

Gan dynnu ysbrydoliaeth o Disclosure ac Overmono, roedd Llion eisiau creu rhywbeth a allai weithio mewn clwb neu mewn rave, ond oedd dal yn ddigon prydferth i sefyll ar ei ben ei hun y tu allan i’r lleoliad hwnnw.

Mae’r fideo sy’n cyd-fynd â’r trac yn cynnwys y ddawnswraig Cerys Lewis, gyda’r perfformiad wedi’i greu’n hollol rhydd, heb goreograffi penodol. Wrth symud rhwng tri amgylchedd sy’n cynrychioli byd natur, y ddinas a’r dyfodol, mae’r fideo’n dychmygu pob gofod fel wyneb ar hyperciwb, gyda’r cyfan yn plygu’n ôl i mewn i’w hunain.

Gadael Ymateb