Mae HMS Morris wedi rhyddhau’r drydedd sengl o’u halbwm newydd, ‘Saci Hacs’.
‘Lauderette’ ydy enw’r sengl newydd sy’n flas pellach o’r albwm fydd allan ar 30 Hydref.
Mae teimlad cryf o ddylanwad cerddoriaeth y 1980au ar ‘Launderette’, sydd hefyd yn cynnwys y canwr a DJ Bright Light Bright Light fel gwestai.
Bright Light Bright Light ydy Rod Thomas sydd wedi’i eni yng Nghymru, ond sydd bellach wedi sefydlu yn Efrog Newydd ac wedi cyd-weithio yn y gorffennol gydag Elton John a Scissor Sisters.
Gyda’i gilydd, mae Heledd a Rod yn plethu gwe o leisiau hynod dynn dros y bas a drymiau sy’n gyrru’r gân. Mae hyn yn clymu gydag elfennau gitâr ‘cock-rock’ miniog a detholiad o badiau synthesydd. Mae’n bop di-baid, wedi’i wneud ar gyfer unrhyw un sydd â hyd yn oed yr hoffter lleiaf o’r esthetig enfawr hwnnw o’r 80au.