Mae’r Urdd wedi cyhoeddi leinyp eu gŵyl gerddoriaeth, Triban, wrth i’r Eisteddfod ymweld ag Ynys Mon fis Mai.
Bydd amserlen wythnos arferol yr eisteddfod yn newid cryn dipyn eleni, ac mae hynny’n cynnwys symud Triban i benwythnos cyntaf yr ŵyl.
Nos Sadwrn 23 a nos Sul 24 Mai fydd dyddiadau Triban y tro hwn felly, a bydd digon o artistiaid i’w gweld yn perfformio ar y ddwy noson.
Ciwb fydd y prif fand ar y nos Sadwrn, a bydd cefnogaeth gan Aleighcia Scott, Dros Dro, Mynadd, TewTewTennau, Maes Parcio ac Alis Glyn.
Yna, noson ‘Mawrion Mȏn fydd yn dilyn ar y nos Sul gydag Elin Fflur, Fleur de Lys, Gwilym, Cordia, Buddug a Popeth. Mae modd archebu tocynnau nawr ar wefan Eisteddfod yr Urdd.