Morgan Elwy i ryddhau ei sengl ska gyntaf

Bydd Morgan Elwy yn rhyddhau ei sengl ddiweddaraf,  ‘Amser  Da’,  ar 16 Ebrill ar label Bryn Rock. 

Mae’r trac diweddaraf yn un arwyddocaol i’r cerddor poblogaidd gan mai dyma fydd ei  gam cyntaf i fyd ska. 

Yn llawn egni, yn fachog ac yn llifo gyda naws bositif a harmonïau, mae’r trac yn dangos cyfeiriad newydd cyffrous i’w sain reggae Gymraeg nodweddiadol. 

Mae’r sengl yn rhan o’r albwm, ‘Amser Da mewn Amser Drwg’, gyda mwy o ganeuon i’w rhyddhau dros y misoedd nesaf. 

Mae Morgan Elwy yn artist o Ogledd Cymru sy’n adnabyddus am reggae Cymraeg, gan  gyfuno dylanwadau dub, roots a blues gyda negeseuon cydwybodol o heddwch a hunaniaeth. 

Yn gyn-athro ffiseg a drodd at gerddoriaeth yn llawn amser yn 2021, mae wedi adeiladu enw cryf yn gyflym drwy berfformiadau mewn gwyliau, chwarae ar y radio, ac ennill Cân i Gymru yn 2021.

Dyma ‘Amser Da’:

 

Gadael Ymateb