Mae’r ddeuawd o Drefaldwyn, Elin a Carys wedi rhyddhau eu fersiwn newydd o’r glasur o gân werin, ‘Ym Mhontypridd Mae ‘Nghariad’.
Dyma un o hoff ganeuon gwerin y chwiorydd cerddorol ac ar y fersiwn newydd maent yn cyfuno ei hanes cyfoethog â’u dehongliad cerddorol unigryw eu hunain.
Clywodd Elin y gân mewn sesiwn tua blwyddyn yn ôl, ac roedd rhywbeth cyfarwydd iawn ynddi.
Mae’n gân boblogaidd sydd wedi cael ei chanu gan lawer o artistiaid dros y blynyddoedd, ac aeth Elin a Carys ati i greu trefniant gyda’i gilydd. Ers hynny, mae wedi dod yn un o’u hoff ganeuon i’w pherfformio.
Casglwyd y gân yn Llangollen, ac mae ganddi gysylltiadau hanesyddol cryf ag ardal Llandysul yng ngorllewin Cymru, lle casglwyd dwy fersiwn wahanol iawn ohoni – un yn y cywair mwyaf gyda rhythm cryf, a’r llall, sy’n fersiwn llawer hŷn, yn y modd Doriaidd. Efallai mai’r fersiwn yma yw’r agosaf at y fersiwn y maent wedi’i recordio.
Maent wedi bod yn perfformio’r gân mewn gigs ledled Cymru dros y flwyddyn ddiwethaf, ac yn falch iawn o gael rhannu eu fersiwn gyda phawb.
Recordwyd y gân yn Stiwdio Sain gydag Aled Wyn Hughes yn peiriannu.