Mae HMS Morris wedi rhyddhau eu halbwm stiwdio diweddaraf. ‘Saci Hacs’ ydy enw’r record hir newydd sydd, yn ol y band, yn “albwm yn llawn mân chwalfeydd emosiynol ac adferiadau cryfach fyth.”
Mae’r albwm allan ar label Bubblewrap Collective ers dydd Gwener diwethaf, 30 Hydref gan ddilyn y sengl ‘Lauderette’ a ryddhawyd ddechrau’r mis fel tamaid i aros pryd.
“Unwaith eto, albwm yn llawn myfyrdodau ar ddigwyddiadau ac athroniaethau cachlyd, i gyd wedi’u lapio mewn blip-di-blops a gliter i guddio’r cyfan fel parti anthems” meddai’r band am yr albwm.
Bydd sawl cyfle i weld HMS Morris yn perfformio’n fyw yn ystod mis Tachwedd gan gynnwys yng ngŵyl Simple Things Festival ym Mryste ar 7 Tachwedd, Mono yn Glasgow ar gyfer Pop Mutations Festival ar 13 Tachwedd, gig yn Nghlwb Criced Leith FAB ar 14 Tachwedd ac yna gig yn The Nest, Rhydychen ar 19 Tachwedd.
Byddan nhw’n cloi’r gyfres o gigs gyda pherfformiad yng Nghlwb Ifor Bach, Caerdydd ar 20 Tachwedd.
Dyma ‘Cŵn’ o’r albwm: