Mei Emrys yn rhyddhau ‘Atlas’

Mae Mei Emrys yn parhau i gynnig blas o’r hyn sydd i ddod ar ei albwm newydd wrth ryddhau ei sengl ddiweddaraf, ‘Atlas’. 

Unwaith eto mae’r trac wedi ei recordio yn Stiwdio Ferlas, Penrhyndeudraeth – gyda Rich Roberts wrth y ddesg ac mae’n ddilyniant i ‘Digwydd Cwrdd’ a ryddhawyd ym mis Hydref.

‘Atlas’ fydd y tamaid i aros pryd i Mei ei rannu gyda’r byd, cyn i’w ail albwm unigol o’r un enw gael ei ryddhauwythnos yn ddiweddarach.

Tra mae sain y sengl newydd yn adleisio rhai o glasuron roc amgen mwyaf teimladwy’r 1990au – megis ‘Don’t Go Away’, gan Oasis, ac ‘A Long December’, gan Counting Crows – y themâu sy’n cael eu trafod yn ‘Born and Raised’, gan John Mayer, ac ‘Eve, the Apple of my Eye’, gan y band Gwyddelig, Bell x1, oedd yn bennaf gyfrifol am ysbrydoli’r geiriau hiraethus, sy’n cyd-fynd â’r gerddoriaeth.

Ar y naill law, mae’r gân yn lleisio dyhead i atgyfodi a gwireddu hen gynlluniau cwicsotig o’r gorffennol pell. Ond cymedrolir hynny gan y sylweddoliad, a’r derbyniad, mai tynged rhai breuddwydion o’r cychwyn cyntaf, ydy eu bod yn ‘rhy bell i ffwrdd’.

Fideo arall gan Rhys Grail

Ag yntau eisoes wedi creu clipiau hyrwyddo gwych i gyd-fynd â dwy sengl flaenorol Mei – sef ‘Hen’ a ‘Digwydd Cwrdd’ – derbyniodd Rhys Grail (gynt o’r band Gwilym) y cyfrifoldeb o gynhyrchu fideo ar gyfer ‘Atlas’ hefyd a chwblhawyd y rhan fwyaf o’r ffilmio yn Theatr Fach Llangefni.

Dion Jones, o’r band Alffa, sydd wedi dylunio’r gwaith celf cysylltiedig a chlawr y sengl, unwaith eto.

Bydd yr albwm, sy’n rhannu ei enw gyda’r sengl newydd, ar gael yn ddigidol ar 13 Tachwedd, cyn i’r casgliad un trac ar ddeg hefyd gael ei ryddhau ar finyl a chryno ddisg, ar ddyddiad diweddarach i’w gadarnhau.

Ar ôl i’w berfformiad byw cyntaf o’r gân gael ei ddarlledu ar y raglen Noson Lawen, yn gynharach eleni, bydd Mei yn perfformio ‘Atlas’ ar S4C eto, pan fydd yn westai ar ‘Heno’, ar nos Lun, 16 Tachwedd.

Dyma Mei yn perfformio’r sengl ar Noson Lawen:

 

Gadael Ymateb