EP aml-gyfrannog BWGiBWGAN 

Mae’r label recordiau Cymreig newydd, BWGiBWGAN, wedi rhyddhau casgliad byr aml-gyfrannog o draciau gan artistiaid sydd ar y label. 

‘BWGI – Wonderland 25’ ydy enw’r EP sydd ar gael yn ddigidol ar Bandcamp BWGiBWGAN, ynghyd ag ar ffurf casét nifer cyfyngedig. 

“BWGi-Wonderland yw ein diolch i bawb fu gyda ni o’r cychwyn. Cipolwg ar sain Gymraeg newydd sy’n tyfu’i dannedd. Os ydych chi’n gwrando, rydych chi’n rhan ohono’n barod” meddai’r label. 

Mae’r casgliad yn cynnwys traciau sy’n ffrwyth cyd-weithio, ailgymysgiadau a demos o ganeuon coll sydd wedi eu darganfod. 

Rhyddhawyd yr EP aml-gyfrannog ar gasét yn wreiddiol i gyd-fynd a digwyddiad ‘Label Parti’ cyntaf BWGiBWGAN yn Paradise Garden, Caerdydd ar 12 Rhagfyr, gyda chopïau dros ben ar gael i’w harchebu ar Bandcamp y label erbyn hyn. 

Mae’r casgliad yn cynnwys pedwar o draciau gan yr artistiaid Tai Haf Heb Drigolyn, Why Horses?, Osgled a Spirited Followers, ynghyd a thrac bonws sydd ddim ond ar gael ar y copïau casét. 

Dyma drac Osgled o’r casgliad:

 

Gadael Ymateb