Mae pleidlais Gwobrau’r Selar nawr ar agor!
Bydd modd i chi fwrw pleidlais dros eich ffefrynnau o’r rhestrau byr nes hanner nos, dydd Gwener 23 Ionawr.
Y newyddion da pellach ydy bod tocynnau gig Gwobrau’r Selar, sy’n dychwelyd eleni i Undeb Myfyrwyr Aberystwyth, hefyd ar werth – gallwch fanteisio ar y pris rhad ‘cyntaf i’r felin’ o £10 wrth bleidleisio.
Y pris llawn ar ôl i’r bleidlais gau fydd £15, a bydd lein-yp y gig yn cael ei ddatgelu dros yr wythnosau nesaf.
Mae rhestrau hir wedi eu llunio gan dîm golygyddol Y Selar ar sail yr enwebiadau a dderbyniwyd gan y cyhoeddi fis Rhagfyr, ond mae pob Record Hir a Record Fer cymwys sydd wedi eu rhyddhau wedi eu cynnwys ar bleidlais y categorïau hynny.
Felly peidiwch oedi, ewch ati i bleidleisio!