EP cyntaf IFAND i lanio’n fuan
Mae label Klust Music wedi cyhoeddi y bydd EP cyntaf IFAND yn cael ei ryddhau ar 22 Mai. ‘AMOD’ fydd enw’r record fer newydd gan y cynhyrchydd o Ddyffryn Ceiriog a ddaeth i’r amlwg gyntaf gyda’r sengl ‘FIND ME’ a ryddhawyd ym mis Ebrill eleni.