EP newydd TewTewTennau  

Mae’r grŵp o Ddyffryn Clwyd, TewTewTennau, wedi rhyddhau eu EP newydd ar label Bryn Rock. 

‘Mae ‘Na Lais’ ydy enw’r record fer newydd sydd allan ers 11 Medi.

Mae’r band bywiog yn dychwelyd gyda’u EP newydd sy’n cynnwys 5 trac sy’n plethu pync, roc a rap hefo lyrics Cymraeg. Fel sy’n nodweddiadol o TewTewTennau, mae’r EP yn llawn egni unigryw, gwreiddiol a bachog sydd i’w glywed o’r nodyn cyntaf.

Pedwar ffrind o ardal Llansannan ydy TewTewTennau sef Eban Elwy, Ianto Elwy, Tomos Smith a Hari Roberts. 

Ers haf 2022 maent wedi bod yn brysur yn ysgrifennu, perfformio a recordio eu cerddoriaeth wreiddiol, ac erbyn hyn maent wedi chwarae mewn dros gant o gigs, ac yn parhau i fod yn un o fandiau cyfoes Cymraeg mwyaf cyffrous Cymru.

Dyma’r fideo ar gyfer y teitl drac a gyhoeddwyd ar lwyfannau S4C Miwsig yn ddiweddar:

Llun: Nia Teifi Rees

Gadael Ymateb