Mae’r canwr-gyfansoddwr hoffus, Al Lewis wedi datgelu manylion ei sioe Nadolig poblogaidd eleni
Bu Al Lewis yn cynnal ei sioe Nadolig yng nghwmni ffrindiau yn Eglwys Sant Ioan, Treganna ers sawl blwyddyn ac mae wedi dod yn draddodiad Nadoligaidd i lawer yn y Brifddinas.
Yn wir, mae tocynnau’r sioe fel arfer yn gwerthu’n gyfan gwbl yn fuan iawn ar ôl mynd ar werth, ac mae disgwyl i hynny ddigwydd eto eleni.
Mae’r sioe wedi ymestyn dros ddwy noson ers ychydig flynyddoedd hefyd, a’r dyddiadau eleni fydd nos Wener 11 Rhagfyr a nos Sadwrn 12 Rhagfyr.
Daw’r cyfle cyntaf i’r felin i brynu tocynnau i danysgrifwyr cylchlythyr Al Lewis, ond mae disgwyl iddynt fynd ar werth yn gyhoeddus yn fuan. Mae modd tanysgrifio i’r cylchlythyr ar wefan y cerddor.
Dywed Al Lewis y bydd mwy o fanylion am y sioe eleni’n cael eu datgelu’n fuan.