Rhyddhau sengl Dai Nic 

Mae’r cerddor profiadol, Dai Nic, wedi rhyddhau ei sengl ddiweddaraf.

Prosiect unigol y canwr-gyfansoddwr Dai Nicholas o Landybie ydy hwn, ac enw’r sengl newydd ydy ‘A Waedon Nhw Drost Dim Byd?’

Yn adnabyddus am ei delynegiaeth farddol a steil cerddorol eclectig, mae Dai yn cael ei ysbrydoli gan gerddoriaeth werin a roc, a geiriau llafar, ac yn plethu at ei gilydd themáumegis hunaniaeth, gwrthsafiad a myfyrdod.

Mae’r cerddor yn perfformio gyda’i ensemble The Rebel Motif, gan greu cerddoriaeth sydd yn agos atoch, ac yn wleidyddol bwysig meddai – wedi’i ymwreiddio mewn cariad dwfn at Gymru a pharodrwydd i holi’r cwestiynau anodd.

Daw’r sengl newydd o’i albwm ‘Trydan yn yr Awyr’. 

Gadael Ymateb