Mae’r band roc amgen, Estrons, wedi datgelu y byddan nhw’n dychwelyd gyda sengl newydd ar ddiwedd mis Tachwedd.
Roedd Estrons yn un o fandiau mwyaf cyffrous Cymru rhwng 2013 a 2019, ond chwalodd y band yn y flwyddyn honno, er mawr siom i’w ffans niferus.
Nawr, mae’n ymddangos bod yr aelodau, sef Tali Källström, Rhodri Daniel, Steffan Pringle, ac Adam Thomas nôl gyda’i gilydd fel band ac yn paratoi i ryddhau eu sengl ddiweddaraf.
‘Temper’ ydy enw’r trac newydd ac roedd cyfle cyntaf i’w glywed ar raglen Huw Stephens ar BBC 6 Musis wythnos diwethaf. Bydd y sengl allan ar 27 Tachwedd.