Sain yn cyhoeddi llyfr caneuon Cwmni Theatr Maldwyn 

Mae label Sain wedi cyhoeddi cyfrol newydd sy’n dathlu rhai o sioeau cerdd enwocaf un o gwmniau theatr mwyaf adnabyddus Cymru, sef Cwmni Theatr Maldwyn. 

‘Sycharth yn Fy Ngwaed’ ydy enw’r llyfr sy’n cynnwys cyfeiliant piano, o unawdau, deuawdau a darnau corawl allan o rai o sioeau amlycaf y cwmni – Y Llew a’r Ddraig, Llwybr Efnisien, Crib Siswrn a Rasel, Mela, Gair yn Gnawd, Myfi Yw ac Y Mab Darogan.

Bu Cwmni Theatr Maldwyn ar daith yn ddiweddar gan berfformio caneuon y gyfrol. 

Mae’r caneuon hefyd ar gael ar CD o’r un teitl, drwy label Recordiau Maldwyn. Bydd y daith bresennol yn gorffen yn Galeri Caernarfon, ar 21 Tachwedd ond bydd rhagor o ddyddiadau yng Ngwanwyn 2027.

Sefydlwyd Cwmni Theatr Maldwyn yn 1980 ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol Machynlleth. Dros y blynyddoedd mae’r awduron, Linda Gittins, Penri Roberts a’r diweddar Derec Williams, wedi cyfansoddi a chynhyrchu nifer o sioeau ar gyfer y cwmni ac hefyd ar gyfer pobl ifanc Ysgol Theatr Maldwyn a sefydlwyd yn 2004.

Casgliad o ganeuon o wahanol sioeau sydd yn y gyfrol newydd hon, caneuon sydd heb gael eu recordio mewn stiwdio tan yn ddiweddar. Mae yma unawdau – a allai apelio at bobl ifanc sy’n dymuno cystadlu ar unawd allan o sioe gerdd mewn eisteddfodau – deuawdau a darnau corawl. 

Cyfansoddwyd ‘Y Jerwsalem Newydd’ ar gyfer diweddglo digwyddiad arbennig lle perfformiwyd y cantawd ‘Gair yn Gnawd’ gan aelodau Ysgol Theatr Maldwyn, a’r oratorio ‘Myfi Yw’ gan aelodau Cwmni Theatr Maldwyn ar yr un noson, rai blynyddoedd yn ôl. 

Cyfansoddwyd ‘Ein Maldwyn Ni’ ar gyfer Cyngerdd y Plant yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yn 2024. Ychwanegwyd y gân ‘Sycharth yn fy Ngwaed’ at y sioe ‘Y Mab Darogan’, sef sioe gerdd gyntaf Cwmni Theatr Maldwyn a berfformiwyd am y tro cyntaf yn 1981.

Mae’r gyfrol yn cynnwys amrywiaeth o ganeuon gan rai o brif gyfansoddwyr Cymru, a fydd yn apelio at bobl o bob oed yn ol Sain.

Gadael Ymateb