Roedd y cymeriad enwog Mistar Urdd yn dathlu 50 mlynedd wythnos diwethaf, ac fe ryddhawyd fersiwn newydd o’r gân ‘Hei Mistar Urdd!’, ynghyd ȃ murlun cyhoeddus i lansio dathliadau hanner canrif o’r eicon Cymreig.
Dydd Gwener 20 Chwefror oedd cychwyn blwyddyn o ddathlu 50 mlynedd ers geni Mistar Urdd gan fudiad Urdd Gobaith Cymru.
I lansio’r dathliadau, mae’r Urdd yn cyflwyno cyfres o brosiectau arbennig, gan gynnwys fersiwn newydd o’r anthem ‘Hei Mistar Urdd!’ wedi’i recordio gan Aleighcia Scott, murlun cyhoeddus newydd yn Aberystwyth mewn partneriaeth â’r artist adnabyddus Pete Fowler, a digwyddiad cymunedol arbennig fel rhan o ddathliadau Dydd Gŵyl Dewi.
Mae fersiwn newydd o’r gân eiconig ‘Hei Mistar Urdd!’ allan ar Recordiau Sain.
Mae’r trac, sydd wedi’i hail-greu ar gyfer 2026, yn serennu’r gyfansoddwraig Aleighcia Scott, gyda’r artistiaid Dom James a Lloyd yn ychwanegu elfennau rap cyfoes, a Mared Williams yn cyfrannu lleisiau cefndirol. Mae’r trefniant newydd wedi’i greu gan Morgan Elwy, gan roi bywyd newydd i’r anthem sy’n adnabyddus i filoedd.
Gyda’r fersiwn wreiddiol o ‘Hei Mistar Urdd!’ wedi’i rhyddhau ar label Sain, mae’r Urdd bellach yn rhyddhau’r fersiwn newydd o gân fachog Geraint Davies ar yr un label bron i 50 mlynedd yn ddiweddarach. Recordiwyd y trac yn y stiwdio chwedlonol Sain yn Llandwrog, cartref i’r fersiwn wreiddiol a ryddhawyd yn 1977.
“Mae’n fraint cael bod yn rhan o’r fersiwn newydd o ‘Hei Mistar Urdd!’ – eicon go iawn ac anthem arbennig” meddai Aleighcia Scott.
“Fel dysgwr Cymraeg, rwy’n caru’r gwaith mae’r Urdd yn ei wneud i ysbrydoli plant a phobl ifanc ledled Cymru, ac mae wedi bod yn bleser dathlu’r iaith drwy’r gân hon.
“Roedd recordio yn stiwdio eiconig Sain yn brofiad arbennig, ac roedd hi’n wych gweithio gyda grŵp o gerddorion i ail-ddychmygu cân sy’n golygu cymaint i gymaint o bobl.”
Mae’r gân nawr ar gael yn ddigidol a bydd finyl 7” arbennig ar gael yn Eisteddfod yr Urdd, Ynys Môn, gyda’r fersiwn newydd ar Ochr A a’r fersiwn wreiddiol ar Ochr B. Mae modd rhag-archebu’r finyl cyfyngedig o wefan Sain.