Ffilm ddogfen creu albwm Gwen

Mae ffilm ddogfen arbennig sy’n dilyn y broses o greu’r albwm ‘UMA’ gan Gwen wedi’i gyhoeddi ar-lein.

Rhyddhawyd ‘UMA’ ar 23 Hydref a dyma albwm unigol cyntaf Gwen ers i’w band, Adwaith, benderfynu cymryd saib ar ol degawd o greu a pherfformio gyda’i gilydd.

Gyda’i phrosiect unigol dan yr enw Gwen, mae’r basydd Gwenllian Anthony yn camu allan ar ei phen ei hun.

O’r perfformiad olaf yng Nghaerfyrddin i’r sesiynau recordio yng nghefn gwlad Gorllewin Cymru, mae’r ffilm yn dilyn creu ‘UMA’ – ei halbwm unigol cyntaf, a newid pendant yn ei llais artistig.

Mae’r ffilm hon am newid, am ddod o hyd i hyder, ac am y gofod bregus rhwng gorffen a dechrau eto.

Gadael Ymateb