Taff Rapids yn cydweithio â enillydd Grammy

Mae’r band gwerin bywiog Taff Rapids wedi rhyddhau eu sengl newydd sy’n eu gweld yn cyd-weithio gydag un o enwau mawr y sin cerddoriaeth bluegrass.

‘Never Seen’ ydy’r sengl ddiweddaraf o’u hail albwm sydd ar y gweill, ac sydd allan ers dydd Gwener diwethaf, 30 Hydref. 

Ar gyfer y trac yma,  mae’r pedwarawd o Gaerdydd wedi denu un o enwau mwyaf bluegrass, sef yr enillydd Grammy Michael Cleveland.

Yn adnabyddus am eu cyfuniad o ganeuon dwyieithog, harmonïau ac offeryniaeth bluegrass draddodiadol, mae Taff Rapids wedi creu eu stamp eu hunain ar y genre drwy ddatblygu’r hyn maent yn ei alw’n ‘Blŵgras’ – croestoriad rhwng cerddoriaeth werin gyfoes Cymru a thraddodiad bandiau tannau Appalachia.

Mae cyfraniad Cleveland yn rhoi dimensiwn newydd i ‘Never Seen’, gan ddod â dau fyd ynghyd mewn cydweithrediad sy’n adlewyrchu’r cysylltiadau cryf sydd wedi datblygu rhwng y sîn bluegrass yng Nghymru a’r gymuned ryngwladol ehangach.

Ers rhyddhau eu halbwm cyntaf dan yr enw ‘Blŵgras’, mae’r band wedi perfformio ledled y DU, Ewrop a Chanada, gan ddenu cefnogaeth gan BBC Radio Cymru, BBC Radio Wales ac RTÉ Radio 1, a chyflwyno bluegrass Cymraeg i gynulleidfaoedd newydd ar hyd y ffordd.

Bydd sawl cyfle i’w gweld yn perfformio yng Nghymru rhwng hyn a’r Nadolig, yn ogystal ag un gig yn Lloegr. 

Gigs Taff Rapids

06 Tachwedd – The Muse, Aberhonddu

07 Tachwedd –  Ty Siamas, Dolgellau

21 Tachwedd – Eglwys St Cadoc’s, Caerleon 

11 Rhagfyr – Yr Heulyn, Y Felinheli 

12 Rhagfyr – Neuadd Y Plwyf Llannefydd 

19 Rhagfyr – Seaford Little Theatre, Seaford 

Gadael Ymateb