Cynnyrch newydd gan Mr Phormula

Mae Mr Phormula yn ôl gyda EP newydd ffrwydrol tri thrac, sy’n ei weld yn cydweithio gyda’r cynhyrchydd cerddoriaeth adnabyddus o Wlad Pwyl, Flex. 

Yn llawn egni crai, agwedd, a rhythm anorchfygol, mae’r cydweithrediad hwn yn arddangos amrywiaeth ddeinamig o synau sy’n ymestyn o Dubstep, Drum’n’Bass, i Garage.

‘Phormula Flex’ ydy enw’r EP newydd gan y ddeuawd sydd allan ers dydd Gwener diwethaf, 10  Ebrill, ar label Mr Phormula Records. 

Mae’r record fer tri thrac yn cyflwyno cymysgedd effaith-uchel o arddulliau a dylanwadau, gan gyfuno rhythmau trydanol, llinellau bas trwm, a chynhyrchiad blaengar gan Flex.

Gyda phob trac yn dod â’i flas ei hun, mae’r EP  yn sicr o roi’r lloriau dawns ar dân a chadw’r torfeydd yn symud o’r dechrau i’r diwedd.

Daw’r EP newydd yn fuan ar ôl i Mr Phormula dderbyn Gwobr Cyfraniad Arbennig Y Selar ym mis Chwefror.

Dyma’r trac ‘Mynd Fela’: