Mae gwefan AM wedi cyhoeddi pedair ffilm ddogfen fer newydd am ddiwylliant cerddorol cymunedol, wrth nodi Dydd Miwsig Cymru.
Mae’r ffilmiau yn dogfennu ystod eang o gerddoriaeth iaith Gymraeg o gymunedau ledled Cymru, o’r sîn gerddoriaeth ym Machynlleth, i weithgaredd ac effaith y prosiect Garlleg, i hanes Fflach Cymunedol yn Aberteifi ac i gerddoriaeth MOBO tu allan i Gaerdydd.
“Mae’n fraint cael darlledu’r casgliad cyffrous, amserol yma o ffilmiau ar Am” meddai Lea Glyn o Am.
“Mae bywiogrwydd gweithgaredd llawr gwlad yn gwbl hanfodol i ffyniant y diwydiant cerddoriaeth yng Nghymru, a mae’r ffilmiau yma yn cynnig mewnwelediad hynod ddifyr i weithgaredd o’r fath.”
Comisiynwyd y ffilmiau trwy alwad agored yn rhan o brosiect ehangach AcCam, gyda chefnogaeth Adran y Gymraeg Llywodraeth Cymru.
Mae AmCam yn anelu i roi cyfleoedd i wneuthurwyr ffilm ifanc ledled Cymru ddogfennu a phortreadu eu cymunedau trwy ariannu rowndiau o ffilmiau byrion iaith Gymraeg.
Mae’r rownd gerddorol arbennig yma yn dilyn y casgliad cyntaf o ffilmiau llynedd, a bydd rownd arall i ddod yn fuan.
Y ffilmiau:
Ad-Drefnu gan Lleucu Elisa Jenkins. Ffilm yn olrhain hanes ymgyrch ad-drefnu Fflach Cymunedol a ffrwyth llafur eu gwaith caled o feithryn y sîn gerddorol lleol yn ardal Aberteifi, flwyddyn wedi’r ymgyrch.
Sŵn Mach gan Lowri Page. Ffilm ddogfen am don newydd o arbrofi cerddorol Cymreig yng Nghanolbarth Cymru, yn cynnwys Tai Haf Heb Drigolyn, Osgled a Cerys Hafana.
Garlleg gan Kieron Shand. Hanes y casgliad celfyddydol o Aberystwyth, Garlleg.
‘Croeso Y Diwylliant’ gan yr artist o Dalgarth yn y Bannau Brycheiniog, fruitb0y. Golwg ar y sîn MOBO Gymreig sy’n ffynnu, gan dalu sylw arbennig i bedwar artist o Gymru wledig – fruitb0y, Bombero, Mr Phormula and Skylrk. Trwy eu straeon mae’r ffilm yn archwilio eu teithiau, heriau a gobeithion ar gyfer y dyfodol.