Mae Y Selar wedi cyhoeddi rhagor o rhestrau byr Gwobrau’r Selar, mewn cydweithrediad â BBC Radio Cymru.
Mae saith o restrau byr wedi eu cyhoeddi eisoes sef ‘Band neu Artist Newydd Gorau’, ‘Record Fer Orau’, ‘Seren y Sin’, ‘Digwyddiad Byw Gorau’, ‘Record Hir Orau’, ‘Fideo Cerddoriaeth Gorau’ ac ‘Artist Unigol Gorau’.
Mae’r rhestrau byr wedi bod yn cael eu datgelu’n wythnosol ar raglenni Radio Cymru Mirain Iwerydd ac Ifan Davies.
Datgelwyd un rhestr fer arall ar raglen Mirain Iwerydd nos Fercher diwethaf (11 Chwefror) sef ‘Band Gorau’.
Y tri grŵp ddaeth i frig y bleidlais gyhoeddus ar gyfer categori hwnnw, sy’n cael ei noddi gan Rownd a Rownd, oedd Ciwb, Pys Melyn a Bwncath.
Yr ail restr fer i’w chyhoeddi wythnos diwethaf oedd y ‘Gwaith Celf Gorau’, sy’n cael ei noddi gan Y Lolfa.
Datgelwyd ar sioe Ifan Davies mae’r tri clawr gorau yn ôl y pleidleiswyr oedd ‘Adra’ gan Mynadd, ‘Ymarfer Byw’ gan Dafydd Owain a ‘Pydru yn yr Haul’ gan Cyn Cwsg. .
Bydd y rhestr fer olaf eleni, sef ‘Cân Orau’, yn cael ei chyhoeddi ar raglen Ifan Davies ar ddydd Gwener 20 Chwefror, gyda’r noson Wobrau’n cael ei chynnal yn Undeb Myfyrwyr Aberystwyth y noson ganlynol, 21 Chwefror.
Mae tocynnau noson Wobrau’r Selar ar werth nawr – https://selar.cymru/gwobrau/tocyn/
Rhestrau byr diweddaraf:
Gwaith Celf Gorau (noddir gan Y Lolfa)
Adra – Mynadd
Ymarfer Byw – Dafydd Owain
Pydru yn yr Haul – Cyn Cwsg
Band Gorau (noddir gan Rownd a Rownd)
Ciwb
Pys Melyn
Bwncath