Ffos Goch yn rhyddhau sengl ‘Nos Sadwrn’

‘Nos Sadwrn’ ydy enw’r sengl ddiweddaraf gan y cerddor cynhyrchiol o Birmingham, Ffos Goch.

Prosiect y cerddor profiadol Stuart Estell ydy Ffos Goch, a daw’r sengl ddiweddaraf yn fuan ar ôl iddo ryddhau ei albwm ‘Llythyr Serch at Sylvia’ ym mis Chwefror.

‘Dechreuodd y gân yma fel cyfraniad at brosiect y band Tom Violence, o’r enw ‘Rebuilding from Dereliction’, oedd yn gofyn am covers o’r cân ‘Dereliction’” eglura Stuart am ‘Nos Sadwrn’.

“Pwrpas yr albwm oedd codi arian at MNDA (Motor Neurone Disease Association. O’n i’n teimlo’n ddireidus, felly troais eu trac roc amgen yn rhywbeth swniai fel yr oedd wedi baglu allan o’r nawdegau tra’n gwisgo sodlau uchel.

“Ac felly daeth y syniadau o ailadeiladu’r gân unwaith eto, a bod yn onest am sut mae mynd mas yn teimlo yn eich pumdegau.”

 

Gadael Ymateb