Sengl Ddwbl Tai Haf Heb Drigolyn

Mae’r band arbrofol o’r canolbarth, Tai Haf Heb Drigolyn, wedi rhyddhau dau drac sy’n dangos dwy ochr gyferbyniol i’w sŵn lo-fi, arbrofol. 

‘Cân Gan Tai Haf Heb Drigolyn’ a ‘Once I Was An Eel’ ydy enw’r ddwy sengl newydd gan y band sydd allan ar label BWGiBWGAN.  

Mae cerddoriaeth Tai Haf Heb Drigolyn yn byw mewn llonyddwch a thensiwn. Wedi ei recordio mewn stafelloedd benthyg a stiwdios bach o amgylch Machynlleth, mae eu caneuon yn cofleidio agosatrwydd a swyn recordio cartref – hiss y tâp, distortion ac amherffeithrwydd analog ymysg alawon a harmonïau.

Mae ‘Cân Gan Tai Haf Heb Drigolyn’ yn tynnu ar ddylanwadau megis Rubber Soul, Olivia Tremor Control, Emitt Rhodes a Sharp Pins, ac yn adlewyrchu cynnydd y sîn lo-fi o amgylch “new youth revolution” Kai Slater. 

Mae’r gân yn dychmygu byd lle mae pawb yn credu dy fod wedi marw, a does neb yn mynychu dy angladd, a deud y gwir, maen nhw’n dathlu mewn parti.

Cafodd y lleisiau eu recordio yn defnyddio teclyn clyw (Whisper 2000) fel meicroffon, wedi ei ysbrydoli gan y dull anghonfensiynol o recordio sydd i’w glywed ar ‘Piano Fire’ gan Sparklehorse.

Mae ‘Once I Was An Eel’ yn arddangos ochr chwareus y band, wedi ei ddylanwadu gan Captain Beefheart, cyfnod Pod a Guava y band Ween, Sharp Pins a White Album y Beatles. 

“Daeth y trac yn gyflym ac annisgwyl, dyma ni’n adeiladu ar un riff gitar efo’n gilydd, ac wrth i bawb daflu syniadau cafodd y gân ei hysgrifennu – doedd dim syniad rhy wirion” meddai’r band

Mae’r band yn egluro’r broses ysgrifennu fel un cydweithredol ac anhrefnus ar bwrpas. 

“Da ni’n ysgrifennu tudalen ar ôl tudalen o eiriau gan chwerthin efo’n gilydd wrth drio gwneud synnwyr o’r hyn sy’n gweithio.”

Gadael Ymateb