Mae’r gantores werin o Geredigion, Mari Mathias, wedi rhyddhau ei sengl ddwbl newydd.
Teimlad o berthyn, newid ac agosatrwydd at y tir a chyn-famau sydd wedi ysbrydoli dwy sengl newydd ganddi.
‘Aderyn Pur’ ydy enw’r ail sengl ganddi o’i halbwm ‘Cyfarwydd’ ac mae’n ei rhyddhau ar y cyd â’r trac ‘Y Morgen’.
Mae ‘Aderyn Pur’ yn berfformiad byw o gân draddodiadol werin sydd wedi ei recordio yn nyfn yn y Preseli mewn hen eglwys wedi’i hadnewyddu – ‘Studio Owz’. Yn y gân, mae Mari yn canu ac yn chwarae’r gitâr nylon gyda’i ffrind annwyl, Jac Kelshaw ar ail gitâr acwstig, yn creu sain tyner, naturiol.
Yn syth o’r galon
Mae ‘Aderyn Pur’ yn archwilio themâu o drawsnewid a byrhoedledd bywyd, gan gyffwrdd â chariad, colled, yr awel, yr awen a hedfan i leoliadau newydd.
“Mae Aderyn Pur yn dod yn syth o’r galon. Mae’n anodd i mi wrando ar y trac yma heb fynd yn ychydig yn ddagreuol” eglura Mari.
“Treulion ni rhan fwyaf o’r diwrnod yn ei recordio hi, roedd fy llais yn eithaf blinedig ar ôl wythnos o recordio ond mewn ffordd, mae’r blinder yn ychwanegu diniweidrwydd a thynerwch at y gân, sy’n teimlo’n gysylltiedig â’r ‘aderyn pur’.”
Mae ‘Y Morgen’ yn gân wreiddiol gan Mari sy’n archwilio themâu o arfordir Cymru, llên gwerin a chwedl creadur y Morgen, sef creadur hudol y môr ym mytholeg Cymru a mytholeg Celtaidd.
Mae’r gân yn plethu themâu benywaidd, adennill straeon a llên gwerin ei mamwlad yng ngorllewin Cymru, a thir ei hynafiaid Celtaidd ym Mryniau’r Preseli.
Mae ‘Y Morgen’ yn myfyrio ar ein cysylltiad coll â’r môr a’i greaduriaid, traddodiadau hynafol, a’r angen i ailgysylltu â’r ddaear a’r dŵr gan ddychmygu dyfodol lle gallwn fyw ochr yn ochr â hen ffyrdd o greu, gan gasglu bwyd, cerrig a straeon o’r arfordir.
Dyma ‘Y Morgen’: