Mae’r gantores werin Mari Mathias wedi cyhoeddi fideo newydd ar gyfer ei thrac ‘Y Morgen’. Mae ‘Y Morgen’ yn gȃn wreiddiol gan Mari a’i band sy’n archwilio arfordir Cymru a llên gwerin y Morgen, sy’n golygu “ganwyd yn y môr” a chreadur y môr mewn mytholegau Cymraeg a Cheltaidd. Mae’r gân yn plethu themâu benyweidd-dra ynghyd, gan adennill straeon a llên gwerin ei mamwlad yng ngorllewin Cymru, a thir ei hynafiaid Celtaidd ym Mynyddoedd y Preseli a thu hwnt.
Mae ‘Y Morgen’ yn myfyrio ar ein cysylltiad coll â’r môr a’i greaduriaid, traddodiadau hynafol, a’r angen i ailgysylltu â’r ddaear a’r dŵr – dychmygu dyfodol lle gallwn fyw ochr yn ochr â hen ffyrdd o greu, crefftau sy’n ein cysylltu â’r tir a’n hynafiaid, casglu bwyd, cerrig, cregyn a straeon o’r arfordir, i’w trosglwyddo am genedlaethau i ddod.
Daw’r trac o’r albwm ‘KYFARWYDD’ fydd yn cael ei ryddhau’n llawn yn y gwanwyn ar ôl i Mari rannu cyfres o senglau.
Dyma’r fideo: