Mae trefnwyr gŵyl Sesiwn Fawr Dolgellau wedi cyhoeddi enwau’r don gyntaf o artistiaid fydd yn perfformio yno eleni.
Cynhelir yr ŵyl rhwng 16 a 19 Gorffennaf gyda llwyfannau amrywiol yn y dref.
Mae’r enwau cyntaf i’w datgelu’n mynd i fod yn perfformio ar lwyfan y Ship dros y penwythnos, neu ar lwyfan acwstig Eglwys y Santes Fair ar brynhawn Sadwrn yr ŵyl.
Yr enwau sydd wedi’u datgelu ydy Aleighcia Scott & Morgan Elwy, An Dannsa Dub, Ar Log, Bau Cat, Carys & Elin, Ciwb, Cordia, Fleur de Lys, Martha Elen, Melin Melyn, Mwsig, Pys Melyn, Raz & Afla, Steve Eaves, Taff Rapids, Tant, Taran, TewTewTennau a Yoko Pwno.
Maent hefyd wedi cyhoeddi y bydd tocynnau cyntaf yr ŵyl ar gael i’w prynu yn Nhŷ Siamas ar 28 Chwefror, ac yna ar-lein ar 1 Mawrth.