GWEN yn cyhoeddi albwm cyntaf wrth ryddhau sengl ddiweddarf

Mae Gwen, sef prosiect unigol Gwenllian Anthony o’r band Adwaith, wedi rhyddhau ei sengl ddiweddaraf, gan hefyd ddatgelu manylion ei halbwm cyntaf fydd allan yn fuan.

‘POP!’ ydy enw’r sengl newydd sydd allan ar label Libertino, a bydd ei halbwm llawn, ‘UMA’ yn dilyn ar 23 Hydref. 

Daw’r newyddion yn dilyn haf llwyddiannus i’w sengl gyntaf ‘Achub Yr Iaith’ a’i pherfformiad unigol cyntaf yng Ngŵyl y Dyn Gwyrdd.

Wedi’i gyrru gan linell fas rymus, electroneg ddiwydiannol a rhythmau hypnotig, mae ‘POP!’ yn aflonydd, yn heintus ac yn herfeiddiol. 

Yn y geiriau ei hun, mae GWEN yn ei disgrifio fel “post-Brexit pop” a “post-the-world-has-gone-to-shit-pop”, cân sydd wedi tyfu o rwystredigaeth gyda’r diwydiant cerddoriaeth, y sefyllfa wleidyddol ehangach a’r pwysau cyson ar artistiaid i brofi eu gwerth.

I Anthony, mae’r rhwystredigaeth honno’n fwy personol byth wrth greu yn y Gymraeg, iaith sy’n dal yn rhy aml i gael ei thrin gan y diwydiant cerddoriaeth ehangach fel rhywbeth sydd angen ei chyfieithu, ei hegluro neu ei chyfaddawdu.

Mae ‘POP!’ yn herio’r syniad hwnnw’n uniongyrchol.

“Mae POP! yn rhyddhad o’r holl deimladau sy’n gallu cronni wrth weithio yn y diwydiant cerddoriaeth” eglura Gwenllian.

“Mae’n codi bys canol at y porthgeidwaid, at bobl gul eu meddwl yn y diwydiant ac at y grind sy’n cael ei ddisgwyl gan artistiaid. Ond mae hefyd yn adlewyrchu fy mreuddwydion, yr hyn rydw i eisiau ei gyflawni a’r hyn rydw i’n fodlon ei aberthu er mwyn cyflawni’r breuddwydion hynny.”

Dyfal donc

Wrth galon y gân mae’r gwrthddywediad sy’n rhedeg drwy ‘UMA’: yr awydd i gerdded i ffwrdd a’r penderfyniad i ddal ati.

Mae ‘POP!’ yn dechrau gyda “F**k that, I’m done”, ond yn ddiweddarach mae Anthony yn canu: “Mae gen i freuddwyd / Syniadau Mawr / Manifesto / I adennill y wawr”

Mae’r gân yn cloi gyda’r hen ddywediad Cymraeg “Dyfal donc a dyr y garreg”, ymadrodd am rym dyfalbarhad a’r gred y gall hyd yn oed y rhwystr caletaf ildio yn y pen draw.

Y symudiad hwnnw o amheuaeth at hunan-gred sydd wrth galon ‘UMA’.

Mae’r albwm yn nodi newid sylweddol yn y ffordd mae Anthony yn gweithio. Ar ôl blynyddoedd o ysgrifennu a chreu ar y cyd, yn fwyaf nodedig fel aelod craidd o Adwaith, ‘UMA’ yw’r corff cyntaf o waith iddi ei ysgrifennu’n gyfan gwbl ar ei phen ei hun.

Wedi’i ysgrifennu wrth deithio ar draws Ewrop yn ystod haf 2025 a’i gwblhau yng Ngorllewin Cymru gyda Tim Lewis (Coil, Spiritualized) a’r cydweithiwr hirhoedlog Steff Pringle, daeth y record yn broses o ailddyfeisio creadigol.

Roedd y profiad o ysgrifennu a recordio ar fy mhen fy hun yn rhoi lle i mi edrych i mewn a dysgu llawer amdanaf fy hun” meddai.

“Fe wnaeth i mi gredu fy mod i’n gallu, fy mod i’n greadigol a bod gen i rywbeth i’w ddweud, ac nad oes angen i mi ddibynnu ar bobl eraill er mwyn gwireddu fy ngweledigaeth. Mae popeth sydd ei angen arna i o fewn i mi.

“Roedd yna adegau o hunan-amheuaeth, teimlo ar goll ac ofn, sy’n hollol naturiol mewn unrhyw broses greadigol, ond mae goresgyn y pethau hynny wedi fy helpu i dyfu fel cerddor, fel storïwraig ac fel person.” 

Gwen yn ymddiried yn ei greddf ei hun

Dewiswyd y teitl ‘UMA’ am nad oes iddo unrhyw ystyr etifeddol. Gair wedi’i greu ydyw, gair sy’n gallu golygu dim byd a phopeth ar yr un pryd. I Anthony, daeth yn lechen lân, yn ddrws i fyd y gellid ei ddiffinio’n llwyr ar ei thelerau ei hun.

Ar draws yr albwm, mae’r byd hwnnw’n symud rhwng dau dirwedd tra gwahanol: lloriau gludiog, mwg a chwys clybiau nos Ewrop, arfordir garw, mynyddoedd a mannau agored Gorllewin Cymru.

Mae’r caneuon yn symud drwy gariad dwys, cyfeillgarwch, blinder, bregusrwydd, swrealaeth a rhyddhad. Mae rhai yn dod o hyd i ryddid yn nhywyllwch cymunedol clwb nos, tra bod eraill yn troi at natur, agosatrwydd a meddalwch fel ffyrdd o ddod o hyd i gryfder.

Yr hyn sy’n eu clymu at ei gilydd yw nid annibyniaeth fel rhyw fath o ynysigrwydd, ond y darganfyddiad y gall Anthony ymddiried yn ei greddf ei hun heb gau ei hun oddi wrth y bobl, y lleoedd a’r cymunedau o’i chwmpas.

Mae’r albwm yn adlewyrchu hunanddarganfyddiad, darganfod hyder a dysgu sut i fod yn ddigyfaddawd. Roedd ysgrifennu’r albwm ar fy mhen fy hun yn caniatáu i fy ngweledigaeth aros yn ddigyfaddawd, ond y tu hwnt i hynny rydw i wedi dysgu bod yn ddi-ofn ac i gredu ac ymddiried ynof fy hun mewn bywyd bob dydd” meddai’r artist.

“Mae’r albwm yn onest, yn deimladwy ac yn llawen, ac yn adlewyrchu’r holl emosiynau mae bywyd yn eu taflu atom. Mae’n sôn am ailddyfeisio, dod o hyd i chi’ch hun eto ar ôl newidiadau mawr, treialon y diwydiant cerddoriaeth, cariad, tristwch a chyfeillgarwch.”

Y sengl ddiweddaraf, ‘POP!’, yw ei maniffesto: dal ati, creu dy le dy hun a pheidio byth ag aros am ganiatâd i greu. 

Dyma’r fideo ar gyfer ‘POP!’ sydd wedi’i gyfarwyddo gan Anatheme:

Gadael Ymateb