Mae’r canwr-gyfansoddwr, Al Lewis, wedi rhyddhau ei sengl newydd, ‘Will The Circle Be Unbroken‘.
Mae’r recordiad newydd yma yn dod ar ddiwedd taith a ddechreuodd i Al fwy na degawd yn ôl, pan deithiodd i Nashville i recordio’i albwm ‘Battles’ efo’r cynhyrchydd arobryn Charlie Peacock.
“Dwi wastad wedi caru cerddoriaeth Gwlad ond pan ymwelais a Nashville mi deimlais ein bod ni’r Cymry wedi’n tangynrychioli yn y stori o sut daeth canu gwlad i fodolaeth, ac felly yn y gyfres ddogfen yma roeddwn eisiau gweld os oedd sail i fy amheuaethau fod y Cymry wedi cael rôl bwysig yn nyfodiad ‘canu gwlad’” meddai Al.
Mae’r cyfaredd yma yn awr wedi dod yn destun ffocws o ‘Al Lewis: The Welsh Roots of Country’, rhaglen ddogfen newydd BBC Radio Wales ar gael ar BBC Sounds o 31 Awst.
Yn y rhaglen, archwilia Al y cymunedau Cymreig ddatblygodd yn Appalachia, y traddodiadau Capel a chanu emynau cariwyd efo nhw, a sut treiddiodd y traddodiadau yma i ddatblygiad sain cerddoriaeth wreiddiau Americanaidd.
Recordiodd Al y gan gyda Celyn Cartwright, gan greu trefniant noeth wedi’i adeiladu o gwmpas eu lleisiau, gitar acwstig, fiolin, mandolin a bas ddwbl.
Mae ymgysylltiad Celyn yn ychwanegu llais cyfredol Cymreig arall i’r prosiect. Mae Celyn yn ymddangos ar hyn o bryd mewn sioe gerdd ‘The Ballad of Johnny and June’, sy’n archwilio bywydau a cherddoriaeth Johnny Cash a June Carter.
Mae’r recordiad hefyd yn rhoi ystyr newydd i deitl y gân: cerddor a pherfformiwr Cymreig yn ail ymweld a un o’r caneuon wnaeth ddiffinio cerddoriaeth ‘country’, tra’n archwilio’r cysylltiadau diwylliannol rhwng Cymru ac Appalachia sy’n bodoli drwyddi.