Bydd Gwenno yn perfformio fel cefnogaeth i’r seren bop byd-eang, Mika, wrth i’r cerddor berfformio yng Nghaerdydd fis Mehefin.
Bydd gig Mika yng Nghastell Caerdydd ar nos Wener 12 Mehefin ac mae tocynnau ar werth nawr.
Datgelwyd y bydd Gwenno yn un o’r artistiaid sy’n cefnogi, ynghyd a’r band amlwg The Feeling.