Lleuwen ar daith Gwanwyn PYST x Mentrau Iaith

Mae asiantaeth PYST wedi cyhoeddi manylion eu pedwaredd taith ar y cyd. 

Lleuwen fydd prif artist y daith y tro hwn, gyda gigs mewn naw o leoliadau ledled Cymru yn ystod mis Chwefror. 

Mae’r daith yn rhan o brosiect ar y cyd gan PYST, Mentrau Iaith Cymru a chynllun Noson Allan Cyngor Celfyddydau Cymru: prosiect sydd eisoes wedi gweld teithiau llwyddiannus gan HMS Morris, The Gentle Good a Gwilym Bowen Rhys Trio.

Bwriad y bartneriaeth yw ail-gyflwyno cerddoriaeth Gymraeg fyw i ardaloedd gwledig Cymru ac i gynulleidfaoedd na fyddai fel arfer yn cael mynediad at gerddoriaeth fyw yn lleol.

Dyma gyfle prin i glywed Lleuwen yn perfformio set o ganeuon newydd gwreiddiol (ac ambell hen glasur!) Cymraeg, cyn iddi ddychwelyd i’r stiwdio yn ddiweddarach eleni.

 

Dyddiadau’r Taith 

05 Chwefror: 96 Degrees, Y Bontfaen

06 Chwefror: Yr Hen Lyfrgell, Porth

07 Chwefror: Sip, Marchnad Casnewydd

13 Chwefror: Red Lions, Llanidloes

14 Chwefror: Y Fic, Llithfaen

15 Chwefror: Gwesty Owain Glyndŵr, Corwen

19 Chwefror: Caffi Beca, Efailwen

20 Chwefror: Y Porth, Llandysul

21 Chwefror: Caffi Lolfa, Porth Tywyn

Mae modd archebu tocynnau nawr.