Mae Y Selar wedi dechrau cyhoeddi rhestrau byr Gwobrau’r Selar, mewn cyd-weithrediad â BBC Radio Cymru.
Roedd Owain Schiavone, Uwch Olygydd Y Selar a phrif drefnydd y Gwobrau, ar raglen Mirain Iwerdydd nos Fercher diwethaf (28 Ionawr) i drafod y digwyddiad eleni ac i gyhoeddi’r dwy restr fer gyntaf.
Cyhoeddwyd rhestr fer y categori ‘Band neu Artist Newydd Gorau’, sy’n cael ei noddi gan Brifysgol Aberystwyth eleni – y tri ddaeth i frig y bleidlais gyhoeddus oedd y band Blêr o ardal Caernarfon; Martha Elen, a ryddhaodd ei EP ‘Lludw Ddoe’ fis Medi; a’r band ifanc o Ddyffryn Conwy, Hafna.
Yr ail restr fer i’w gyhoeddi ar raglen Mirain oedd ‘Record Fer Orau’, a’r tri ddaeth i’r brig oedd ‘Amser’ gan Rhi Jorj; ‘Mynd â’r Tŷ Bach am Dro’ gan Cowbois Rhos Botwnnog; a ‘Rhydd’ gan Betsan.
Yna, brynhawn dydd Gwener (30 Ionawr) datgelwyd dwy restr fer arall ar raglen BBC Radio Cymru Ifan Davies, sef ‘Seren y Sin’ a noddir gan raglen Heno, S4C a ‘Digwyddiad Byw Gorau’ a noddir gan Technegol.
Sesiwn Fawr Dolgellau, Tafwyl a Maes B oedd y tri digwyddiad byw a ddaeth i frig pleidlais y cyhoedd.
Mae Seren y Sin yn rhoi cydnabyddiaeth i’r unigolion gweithgar hynny sydd wedi creu argraff, yn aml iawn yn arwyr tawel y sin. Y tri ddaeth i’r brig ydy’r frenhines bop-electronig, Ani Glas; prif ganwr Taran ac enillydd cyfres deledu Y Llais, Rose Datta; a’r drymiwr neu fasydd sy’n chwarae i’r rhan fwyaf o fandiau Cymru, Carwyn Williams.
Bydd mwy o restrau byr yn cael eu datgelu ar raglenni Mirain Iwerydd ac Ifan Davies yr wythnos hon.
Mae tocynnau noson Wobrau’r Selar ar werth nawr – https://selar.cymru/gwobrau/tocyn/
Band neu Artist Newydd Gorau (noddir gan Brifysgol Aberystwyth)
Blêr
Martha Elen
Hafna
Record Fer Orau
Amser – Rhi Jorj
Mynd a’r Tŷ Bach am Dro – Cowbois Rhos Botwnnog
Rhydd – Betsan
Digwyddiad Byw Gorau (noddir gan Technegol)
Sesiwn Fawr Dolgellau
Tafwyl
Maes B
Seren y Sin (noddir gan Heno)
Ani Glass
Carwyn Williams
Rose Datta