Gwobrau’r Selar i ddychwelyd i’w cartref ysbrydol

Mae’r Selar yn falch iawn i gyhoeddi manylion dyddiad a lleoliad digwyddiad byw Gwobrau’r Selar.

Y newyddion mawr ydy  bydd y noson yn dychwelyd i Undeb Myfyrwyr Aberystwyth, sef y lleoliad lle cynhaliwyd y digwyddiad yn hynod lwyddiannus rhwng 2015 a 2020.

Nos Sadwrn 21 Chwefror 2026 fydd dyddiad Gwobrau’r Selar. 

Hanes y digwyddiad

Dychwelodd digwyddiad Gwobrau’r Selar yn 2025 am y tro cyntaf ers 2020 a gwaddol cyfnod y clo mawr. 

Digwyddiad cymharol fach o’i gymharu â’r hen ddyddiau oedd hwnnw yn Theatr Arad Goch ar 1 Mawrth 2025, a hynny’n fwriadol fel cam cyntaf at ail-sefydlu’r noson. 

Wrth ddychwelyd i Undeb y Myfyrwyr, lleoliad sy’n dal dros 1000 o bobl, mae’r Selar yn dangos bwriad i ail-sefydlu’r digwyddiad o ddifrif. 

Cynhaliwyd Gwobrau’r Selar gyntaf yn Neuadd Hendre ym Mangor yn 2013, cyn symud i leoliad mwy o faint a mwy canolog yn Neuadd Fawr Aberystwyth yn 2014.

Ond wrth i’r digwyddiad dyfu’n gyflym bu’n rhaid symud i leoliad mwy eto Undeb Myfyrwyr Aberystwyth y flwyddyn ganlynol gyda dros 1000 o bobl yn y gynulleidfa. 

Dal i dyfu fu hanes y Gwobrau ac yn y pendraw tyfodd i fod yn dair noson i gyd gyda gig enillydd y wobr Cyfraniad Arbennig, ynghyd â dwy noson yn Undeb y Myfyrwyr – y cyfan yn denu cyfanswm o tua 2000 o gynulleidfa i gyd. 

‘Dod a phobl ynghyd’

Prif nod digwyddiad Gwobrau’r Selar ydy dathlu llwyddiant cerddoriaeth Gymraeg dros y flwyddyn a fu, gan wobrwyo’r artistiaid ddaw i frig y bleidlais gyhoeddus. Mea’r Selar wedi bod yn casglu enwebiadau ar gyfer y rhestrau hir dros yr wythnosau diwethaf, a bydd y bleidlais gyhoeddus i ddewis y rhestrau byr ac enillwyr yn agor yn fuan iawn . 

“Mae pawb yn dweud bod bwlch yn y calendr cerddorol ers i ddigwyddiad Gwobrau’r Selar ddod i ben yn 2020” meddai Uwch Olygydd Y Selar, Owain Schiavone. 

“Mi wnaethon ni barhau i gyflwyno’r gwobrau yn y blynyddoedd ers hynny, ond y bwriad bob amser oedd y byddai’r digwyddiad byw yn dychwelyd ar ryw ffurf. Mi gymrodd ychydig yn hirach na’r disgwyl efallai, ond roedd cynnal y digwyddiad ar raddfa fach yn 2025 yn rhoi digon o hyder i ni deimlo bod modd ei ddatblygu fel rhywbeth mwy unwaith eto.

“Mae’r digwyddiad yn gyfle i wobrwyo’r enillwyr a dathlu’r holl ddiwydiant, ond yn bwysicach na hynny, mae o’n gyfle i bobl sy’n caru cerddoriaeth Gymraeg i ddod ynghyd ar amser digon llwm o’r flwyddyn o ran gigs. Rhan fawr o lwyddiant Gwobrau’r Selar oedd pobl ifanc yn teithio i’r digwyddiad o bob cwr o Gymru ac rydan ni’n bwriadu gwneud cynnig arbennig i unrhyw un sy’n awyddus i drefnu bws neu deithio fel criw i Aber – cysylltwch â’r Selar am fwy o wybodaeth.”

Bydd pleidlais Gwobrau’r Selar yn agor wythnos nesaf a thocynnau’r digwyddiad yn mynd ar werth yr un pryd am bris bargen gynnar.

Gall unrhyw un sydd am gysylltu â’r Selar wneud hynny trwy ebostio yselar@live.co.uk neu yrru neges uniongyrchol ar gyfryngau cymdeithasol Y Selar.  

 

Prif lun: Candelas yn perfformio yng Ngwobrau’r Selar, yn Undeb Myfyrwyr Aberystywth (Chwefror 2017)

Gadael Ymateb