Ifan Dafydd yn ail-ddychmygu trac Cordia

Bydd y cynhyrchydd sydd wedi hen wneud ei farc, Ifan Dafydd, yn rhyddhau ei fersiwn newydd o un o draciau’r band Cordia ddydd Gwener nesaf, 16 Hydref. 

Mae Ifan Dafydd yn dychwelyd i deulu HOSC Records, chwaer label Recordiau Côsh sy’n canolbwyntio ar ryddhau a hyrwyddo cerddoriaeth electroneg, gydag ail-gymysgiad newydd o ‘Gweld yn Glir’, sengl lwyddiannus Cordia.

Mae Ifan Dafydd yn un o enwau mwyaf adnabyddus cerddoriaeth electronig Cymru, gyda gyrfa sydd wedi ei weld yn gweithio ar brosiectau amrywiol a pherfformio ar lwyfannau ledled y Deyrnas Unedig a thu hwnt. 

Bydd yr ailgymysgiad newydd yn nodi ei gynnyrch cyntaf ar HOSC Records a Recordiau Côsh ers 2020.

Yn dilyn llwyddiant ‘Gweld yn Glir’ dros yr haf, mae’r cydweithrediad newydd hwn yn dod â dau o enwau cyffrous y sin gerddoriaeth Gymraeg ynghyd, wrth i Ifan Dafydd roi ei stamp ei hun ar un o draciau mwyaf poblogaidd y flwyddyn.

 

Gadael Ymateb