Bydd gŵyl gerddoriaeth flynyddol Tregaron, sef Tregaroc, yn dychwelyd ar ddydd Sadwrn 16 Mai.
Sefydlwyd yr ŵyl yn nhref leiaf Ceredigion yn 2014 ac mae wedi mynd o nerth i nerth ers hynny gyda channoedd yn heidio i Dregaron i fwynhau cerddoriaeth fyw yn lleoliadau amrywiol y dref.
Bydd cerddoriaeth yn ystod y dydd o 1pm yn sgwâr Tregaron gyda Bob Delyn a’r Ebillion, Mynadd a Morgan Elwy a’r Band yn perfformio.
Ddiwedd y prynhawn, gan ddechrau am 4:30pm bydd artistiaid yn perfformio yn y clwb bowlio gyda Mojo a Catsgam yn dod ag ychydig o nostalgia i’r ŵyl, ynghyd ȃ Eco Broc yn cefnogi.
Uchafbwynt y diwrnod fydd Y Babell Fawr sydd wedi’i leoli yng Nghlwb Rygbi Tregaron. Yr artisiaid fydd yn cloi’r diwrnod yno eleni fydd TewTewTennau, Dadleoli, Dros Dro a 50 Shȇds o Lleucu Llwyd.
Mae’r trefnwyr yn addo awyrgylch arbennig a chynigion gwych gyda ‘Cerdyn Cardi’ drwy gydol yr wythnos yn arwain at yr ŵyl ac ar y penwythnos ei hun yn rhoi gostyngiad mewn busnesau lleol.
Mae hefyd cynnig o un tocyn am ddim pan fyddwch yn prynu 12 o docynnau neu fwy.
Mae adloniant y prynhawn am ddim, gyda thocynnau’r gig nos yn £25 yr un.