Gyda’r sengl newydd ‘Diva’ wedi’i rhyddhau’n ddiweddar a’r addewid o albwm newydd ar y gorwel, dyma Angharad Rhiannon yn sgwrsio gydag Ynyr Roberts o Popeth ac yn rhoi’r byd yn ei le. Bu i Angharad gyfweld Ynyr ar gyfer ei rhaglen ar orsaf radio GTFM – cofiwch wrando ar ei rhaglenni am 8pm ar nosweithiau Mawrth cyntaf bob mis.
Dych chi’n iawn Ynyr? Yn mwynhau’r tywydd braf? Yw e’n braf ’da chi hefyd heddiw?
Dwi’n dda iawn diolch. Ydy, braf iawn o’r diwedd. Dwi’n meddwl bod 2026 wedi dechrau o’r diwedd. Dyna o’n i’n teimlo hefyd gyda’r gân newydd – mae hon ’di rhoi kick-start i 2026 yn sicr!
Ydy… Mae’n berffaith ar gyfer yr haul! Dyn ni am gael sgwrs am y gerddoriaeth chi ’dych chi’n rhyddhau dan yr enw Popeth. ‘Dych chi di bod yn brysur iawn yn ysgrifennu ac yn cynhyrchu. Felly, beth yw Popeth?
Prosiect sy’ jest yn dod a cherddoriaeth pop i’r Gymraeg. Dwi’n hoff iawn o gerddoriaeth bop ac mae’n bodoli dros y byd wrth gwrs. Dwi’n cofio rai blynyddoedd yn ôl sylwi nad oes ’na lot o gerddoriaeth bop neu ddawns ar gael yn y Gymraeg. O’n i’n meddwl pam di hyn ddim yn bodoli, ac mae angen i mi wneud rhywbeth am y peth. Felly dwi wedi bod yn cydweithio er mwyn creu cerddoriaeth bop… A be dwi’n meddwl wrth gydweithio yw bo fi’n cyfansoddi ac yn cynhyrchu’r caneuon ac wedyn trio ffeindio lleisiau gwych a lleisiau difyr i ddod i’r mix.
Mae pob cân dwi ’di neud hyd yn hyn yn cynnwys elfen o gydweithio, felly cael rhywun i leisio’r caneuon i mi. Mae hyn ’di bod yn broses mor ddifyr ac yn rhywbeth sy’n digwydd yn y byd dawns lot. Os dych chi’n meddwl am David Guetta, neu Calvin Harris, Joel Corry, mae ’na lwythi o’r bobl ’ma yn neud y math yma o beth o gydweithio gyda chantorion gwych. Dyna oedd hanfod y prosiect rili. Dwi wrth gwrs yn canu fy hun. Dwi’n aelod o’r band Brigyn ac wedi bod ers dros 20 mlynedd bellach. O’n i jest ishe camu nôl mewn ffordd yn lle bo fi’n gorfod bod ar flaen y prosiect neu ar flaen y llwyfan, bo fi’n rhoi cyfle i rywun arall leisio’r caneuon ’ma. Mae pob dim wedi gweithio’n wych. Dwi wir yn mwynhau!
Ac mae rhoi platfform i artistiaid newydd wedi bod yn rywbeth pwysig i chi hefyd ydy?
Ie, rhywbeth pwysig dwi’n teimlo. Fel o’n i’n sôn, dwi wedi bod yn y byd cerddoriaeth ers talwm iawn rŵan. Mae o’n neis cal y rôl gefn ac annog pobl sy’n dechrau siwrne rŵan ar sut i fagu hyder a sut i ddelio hefo’r wasg, a hefyd sut i recordio a be ’di’r broses… o ddysgu’r gân i recordio’r gân i ryddhau’r gân. Dwi’n rili mwynhau’r agwedd yna hefyd. Mae cydweithio’n rhywbeth dwi’n hoff iawn ohono. Mae pawb yn elwa o hyn. Mae pob cân hefo’i stori oherwydd hynny a dwi’n rili falch o bob un.
Sut ’dych chi’n mynd ati i ffeindio’r bobl i gydweithio gyda nhw? Ydyn nhw’n dod atoch chi neu ’dych chi’n eu ffeindio nhw?
Ie, ychydig bach o’r ddau a dweud y gwir. Gyda’r gân gyntaf, ‘Golau’… O’n i wedi cyfansoddi’r gân ac wedyn ro’n i eisiau rhywun i’w leisio fo achos o’dd hi’n gân bop ysgafn ac o’n i’n meddwl dwi angen llais, ifanc, egnïol ar y gân yma. Cymdoges i mi o’r enw Martha wnaeth leisio fo ac mewn ffordd mae’r egni yna wedi rhoi bywyd i’r gân. Y gân ‘Acrobat’… o’n i’n ffrindiau efo merch o’r enw Leusa odd yn ran o grŵp o’n i’n ffan mawr ohono sef Serol Serol. O’n i’n gwybod fysa llais Leusa’n rili ffitio ar y gân yma so, nes i feddwl cysylltu gyda Leusa. Pan ti’n cysylltu gyda’r bobl ’ma, ti jest yn croesi dy fysedd y gwnawn nhw ddweud ie.
Ar y cyfan mae’r rhan fwyaf di dweud ie. Dwi ’di cael lot o ’na’ hefyd. Mae hwnna’n rhan o’r broses. Mae rhai pobl yn dweud ‘o na, di’r gân yma ddim i mi’. Ti’n gweithio ar y gân a falle trio eto neu ti wedyn yn chwilio am rywun arall sy falle yn siwtio’r gân. So, ie, mae bob math o senarios mewn ffordd. Y gorau wrth gwrs yw pan bod rhywun yn dod ata i yn gofyn basech chi’n hoffi cydweithio? Wedyn mae ’da chi’r ddau barti yn focused ar gyflawni’r prosiect sy’n rili neis.
Ydy cydweithio yn neud y prosiect yn fwy o hwyl rhywsut?
Ie, dwi’n meddwl bo chdi’n rhannu’r ymateb. Os di’r gân yn cael ymateb da ti’n gallu rhannu hynna efo rhywun so ti’n gallu ymfalchïo efo hynny. Hwnna di’r peth mwyaf bod o’n team work a rhywbeth sy’n bwysig i neud hefo cerddoriaeth… A chal y balans achos mae cerddoriaeth yn rhywbeth personol iawn. Dwi hefyd yn gweld ysgrifennu yn rhywbeth personol iawn. O holl ganeuon Popeth, dyma ydy’r degfed a dwi’n siŵr bod wyth allan o’r ddeg wedi cal ei sgwennu pan o’n i ar ben fy hun yn yr un ’stafell lle dwi’n sgwennu caneuon, wedyn ma na ddwy wedi dod o gydweithio pur. Er bod rhai artistiaid yn licio gweithio ‘in solitude‘ a minnau’n ffan mawr o hynny, dio ddim yn beth drwg cydweithio a chyd-sgwennu achos dwi ’di dysgu gymaint o’r prosiect Popeth ’ma a dysgu lot am fy hun. Mae’n gymaint o les i gael safbwynt rhywun arall. Mae’n broses ddysgu ac yn brofiad grêt.
Mae’r gerddoriaeth yma’n wahanol iawn i Brigyn ydy?
Ydy. Hwnna oedd y bwriad, i gael sŵn hollol wahanol. Odd Brigyn wedi dechrau fel rhyw brosiect arbrofol, ond ’swn i’n dweud bo ni wedi setlo dros 20 mlynedd i fod yn berfformwyr acwstig. Sŵn gitârs, sŵn gwerinol. Be o’n i isio… a nes i benderfyniad pendant wrth ddechrau prosiect Popeth… fysa na ddim gitars! Fysa na ddim offerynnau acwstig arno fo. Mae o i gyd yn allweddellau ac yn guriadau ac fel bysech chi’n disgwyl efo EDM (Electornig Dance Music). Dyna’n union ydy o. O’n i isio jest cymryd cam allan o’r comfort zone mewn ffordd achos dwi ’di dod i’r arfer erbyn hyn efo chwarae gitâr neu chwarae bas a pherfformio ar lwyfan. O’dd cymryd y step wedyn i fod yn gynhyrchydd/DJ math o beth yn rhywbeth gwahanol iawn ond rhywbeth dwi ’di mwynhau yn fawr.
Dwi’n cymryd felly bod y broses o recordio’n wahanol iawn ar gyfer cerddoriaeth Popeth?
Ti’n iawn. Odd lot o’r gwaith yn cael ei neud mewn ystafelloedd ac ar laptops ac yn y blaen lle wrth gwrs pan oeddan ni’n recordio Brigyn, mi fasen ni’n mynd i’r stiwdio a threulio mwy o amser yn y stiwdio. Dwi wedi recordio llais yn y stiwdio ond mae lot fwy o waith yn cael ei neud ar laptops ti’n iawn.
Sut mae mynd ati i ddysgu hynny?
O’n i’n ymddiddori lot mewn technoleg a chyfrifiaduron ar ddechrau’r boom yma. Dwi’n cofio mynd i’r stiwdios pan doedd na ddim cyfrifiadur yn y stiwdio. Dwi’n 45 rŵan felly o’n i ella yn fy ugeiniau cynnar pan ddaeth yr Apple Mac yn trendi a meddalwedd fel Logic, Garageband, ac yn y blaen yn cael eu cyflwyno i’r byd. Dwi wastad di teimlo bod hynny’n rhywbeth mod i yn y lle iawn ar yr adeg iawn i ymddiddori a dysgu am recordio dy hun adref. Fel ’na nath y prosiect Brigyn ddechrau. Rhaid i mi ddweud, dwi’n neud lot o’r gwaith adra erioed, ond dwi wastad yn gorffen pob cân mewn stiwdio efo cynhyrchydd. Mae ’na lot o glod i Sam Humphries sydd jest yn tacluso pob dim i mi ar y diwedd.
Yn dod a Popeth at ei gilydd?
Yn hollol de? Ti angen drum roll ar ôl deud hynna!! Sam sy’n dod a Popeth at ei gilydd a dwi’n ddiolchgar iawn. Dwi bob tro ’di coelio yn hynny. Fel o’n i’n dweud yn gynharach dwi’n cydweithio gyda phobl ac weithiau neith rhywun ddweud “Pam ti ddim jest yn newid hwnna?” a ti’n meddwl ie, mae’n llawer gwell rŵan. So, mae cal barn pobl eraill yn aml yn enhansio pethau yn hytrach na dibrisio felly mae hynna di bod yn brofiad da hefyd.
Dweda wrthym ni am y sengl newydd te, sef Diva? Be di’r stori tu ôl i’r gân.
O’n i’n gwrando ar lot o artistiaid fel Marina – Mae hi o Gymru wrth gwrs. O’n i’n gwrando ar lot o gerddoriaeth pop ac yn aml ti’n cal y divas ma i leisio’r caneuon. Ti’n meddwl am Beyoncé, ti’n meddwl am Lady Gaga… ‘Swn i’n gallu mynd ymlaen ac ymlaen… Little Mix, Dua Lipa… yr holl artistiaid o’n i’n gwrando arno. O’n i jest yn meddwl bod o’n thema dda i chwarae efo fo. Yn enwedig sut mae cerddoriaeth dawns yn cael ei ddefnyddio mewn reels ar Instagram a phethe. Ti’n cal lot o’r divas yn cael eu hunain yn barod cyn mynd allan. Ti’n cal lot o ddivas yn perfformio. Treiglo’r ddivas yn fanna! Ac ie.. dyna be oedd hanfod y gân ydy bo fi isho sgwennu cân am showbiz.
Rhywbeth arall nath ysgogi’r gân oedd bod artist newydd o’r enw Liam J Edwards ’di cysylltu efo fi nôl tua mis Hydref yn dweud bysa’n hoffi cydweithio ac o’n i’n meddwl, mae’r gân yma yn berffaith i Liam. Mae’n arddel ysbryd diva! Mae’n berfformiwr â’r llais anhygoel yma a’r range felly o’n i’n meddwl be am roi cynnig arni fel bo ni’n cydweithio ar y gân yma.
Odd hi’n brofiad hyfryd achos odd gen i’r gân ar ei hanner. Odd gen i’r teitl a’r alaw ac odd gen i’r penillion ond o’n i’n teimlo bo fi angen pont a syniadau ar gyfer trydydd pennill. Gathon ni banad cyn ’dolig a minnau’n sôn am le o’n i arni ar y gân ac wedyn nathon ni jest gweithio’n galed mis Ionawr a recordio’r gân diwedd Ionawr. Erbyn canol Mawrth 2026 odd y gân allan! Da ni ’di gweithio’n sydyn iawn i gael y gân allan. Ar ôl tywydd mor wael dyn ni ’di cael ar ddechrau 2026, dwi jest yn teimlo bod y gân egnïol ma yn mynd i roi ‘kick-start’ i’r flwyddyn i ni’n dau… i mi fel Popeth ac i Liam fel artist hefyd.
A ble dyn ni wedi clywed y llais yma o’r blaen?
Oedd Liam yn un o finalists Y Llais yn 2025. Dwi’n meddwl bo nhw wedi creu argraff arbennig ar gerddoriaeth Gymraeg wrth ymgeisio. Fel lot o bobl wrth ymgeisio ar raglen Y Llais, mae ’di bod yn ffordd wych o godi proffil. Do’n i ddim yn ymwybodol – a dwi wedi cyfaddef hyn i Liam – bo fi ddim yn ymwybodol o Liam J Edwards cyn Y Llais, er bo genno fo albwm, EP a singles. Mae Y Llais jest wedi dyrchafu pobol i ystafelloedd byw dros Gymru. Dwi’n meddwl mai dyna be ydy o – bo ’na lais a phersonoliaeth unigryw gen Liam, sy’n wych!
Be arall sy’ gyda chi ar y gweill ar gyfer Popeth?
Wel, dyma’r gân gyntaf i mi ryddhau eleni ond mae gen i dair cân arall rŵan wedi gorffen ac yn barod i’w rhyddhau. Be dwi am wneud ydy dod a holl ganeuon Popeth a’r tair cân newydd at ei gilydd a rhyddhau albwm diwedd y gwanwyn.
Mae o ’di bod yn siwrne grêt ers 2022 yn cyfansoddi, cynhyrchu a chydweithio. Dwi’n meddwl sa’n neis i ddod a Popeth at ei gilydd – ‘Mind the pun‘ – casglu’r holl ganeuon mewn un lle taclus a rhoi cwpwl o rhai newydd mewn hefyd i nodi bod Popeth yma. Y syniad ydy bod yr albwm fel DJ set – cerddoriaeth dawns electronig ydy o. Y syniad ydy bod y caneuon yn mynd i blethu mewn i’w gilydd.
Dyna be dwi’n gweithio ar y funud ydy dod a’r albwm at ei gilydd fel bo gennym ni’r math o albwm dych chi’n gallu troi mlaen boed da chi’n neud parti neu ddisco neu un rhywbeth. Gan bo’ na leisiau gwahanol ar bob cân, dwi’n gobeithio bydd o’n swnio fel set DJ yn Ibiza neu ar lan môr. Dyna be ’di’r bwriad yw creu’r albwm cysyniadol yma fel bod o yn ready-to-go disco.
Geiriau: Angharad Rhiannon