Sengl ddwbl Gwen

Mae Gwen, sef prosiect unigol y cerddor, cyfansoddwraig a chynhyrchydd Gwenllian Anthony, wedi rhyddhau ei sengl ddwbl newydd ar label Libertino.  

‘Digon’ a ‘Goth’ ydy enw’r ddau drac diweddaraf i’w rhyddhau fel senglau ganddi, a dyma fydd y tamaid olaf i aros pryd nes rhyddhau ei halbwm unigol cyntaf ‘UMA’, a fydd allan ar 23 Hydref.

Mae’r ddwy gân gyferbyniol, ‘Digon’ a ‘Goth’, yn archwilio gwahanol ffyrdd o ildio a gollwng gafael, gan adlewyrchu’r gwrthgyferbyniadau emosiynol sydd wrth galon ‘UMA’.

Mae ‘Digon’ yn un o ganeuon mwyaf bregus yr albwm. Wedi’i hysgrifennu o le o flinder emosiynol, mae’r gân yn darganfod heddwch annisgwyl wrth ollwng gafael. Gyda’r anhrefn o’i chwmpas, mae Anthony yn archwilio’r tawelwch sy’n dod wrth dderbyn nad oes modd rheoli popeth, a rhoi’r gorau i frwydro yn erbyn yr hyn sydd y tu hwnt i’w rheolaeth.

Mewn cyferbyniad, mae ‘Goth’ yn darganfod rhyddid yn nhywyllwch clybiau nos Ewrop. Wedi’i hysbrydoli gan loriau gludiog, waliau chwyslyd ac ystafelloedd llawn mwg, mae’r gân yn dal y rhyddid o ymgolli’n llwyr yn y gerddoriaeth, gadael pwysau bywyd pob dydd ar ôl, a dod o hyd i ymdeimlad o berthyn mewn cymuned lle gallwch fod yn gwbl driw i chi’ch hun.


Gyda’i gilydd, mae’r ddwy gân yn adlewyrchu dau fyd cyferbyniol ‘UMA’: hunanfyfyrdod a rhyddid, bregusrwydd a hyder, unigedd a chysylltiad.


Wedi’i hysgrifennu’n gyfan gwbl gan Anthony, mae ‘UMA’ yn nodi pennod newydd i un o aelodau craidd y band Adwaith. 

Gan symud rhwng ôl-pync, gweadau diwydiannol a phop electronig, mae’r albwm yn archwiliad hynod bersonol o hunan ddarganfyddiad, ail-greu eich hun a dysgu ymddiried yn eich greddf greadigol eich hun.

Dyma’r fideo ar gyfer ‘Digon’ sydd wedi’i gyfarwyddo gan Anatheme:

Gadael Ymateb