Rhyddhau EP Menig

Mae’r cynhyrchydd ifanc o Sir Benfro, Menig, wedi rhyddhau ei EP newydd. 

Prosiect unigol y gŵr ifanc 18 oed, Sam Kelly o Dyddewi, ydy menig a ‘croud sounds’ ydy enw’r ail EP ganddo sydd allan ar label BWGiBWGAN.  

Bu iddo ryddhau tamaid i aros pryd nes yr EP ddiwedd mis Mehefin ar ffurf y sengl ‘carpet’ oedd yn cynnwys sampl o’r trac ‘Arafcore’ gan Tai Haf Heb Drigolyn. 

Cyn rhyddhau’r EP, roedd blas pellach o’r record gyda’r sengl ‘linen3’, a ryddhawyd ar 7 Gorffennaf.

Mae ‘linen3’ yn un o ganeuon mwyaf personol menig hyd yma. Yn dawel ond yn emosiynol, mae’r gân yn archwilio’r gofod rhwng cof a realiti, gan fyfyrio ar y teimlad rhyfedd o alaru am rywun na fu erioed yn bodoli yn y ffordd yr ydych yn eu cofio.

Gyda ‘crowd sounds’, mae menig yn parhau i greu byd cerddorol sy’n gwbl unigryw iddo’i hun, yn cyfuno cyfansoddi gonest â chynhyrchiad trochiol mewn ffordd sy’n teimlo’n ddwys, personol ac yn gwbl wreiddiol.

Dyma ‘carpet’:

 

Gadael Ymateb