Kerrdd Dant yn ddigidol am y tro cyntaf

Mae’r albwm ‘Kerrdd Dant’ gan MC Mabon wedi cael ei ryddhau’n ddigidol am y tro cyntaf. 

Rhyddhawyd y record yn wreiddiol ar ffurf CD yn 2004 ar label Slacyr, a dyma oedd chweched albwm prosiect unigol y cerddor Gruffydd Meredith a fu’n aelod o’r band Tystion yn flaenorol. 

Mae’r albwm yn gasgliad 12 trac o ganeuon amrywiol a gafodd eu recordio yn stiwdio Tŷ Drwg Caerdydd, stiwdio Blaen y Cae, Garndolbenmaen a hefyd mewn stiwdios ‘twll dan staer’ llai amlwg yng Nghaerdydd ac ar beiriant 4 trac rhwng 2000 a 2004. 

Redd un o’r stiwdios yma, Flizkin Manor, yn llythrennol yn gwpwrdd oedd yn agor allan mewn tŷ ac yn cael ei redeg gan yr hynod Gaz Williams (Rocket Gold Star, Charlotte Church). 

Mae’r artistiaid sy’n ymddangos ar yr albwm yn niferus hefyd ac yn cynnwys Dyl Mei, MC Saizmundo, Aron Elias, Gaz Williams a llawer mwy.

Bydd yr EP ‘Kerrdd Dant 2’ hefyd yn cael ei rhyddhau’n ddigidol ar 18 Medi trwy label Tarw Du, sy’n cael ei redeg gan Gruff Meredith. 

Rhyddhawyd y record fer yn wreiddiol fel feinyl 7 modfedd ar y label Finders Keepers/Twisted Nerve yn 2005 ar ôl i Kerrdd Dant ddatblygu mewn i grŵp byw ar gyfer cefnogi Gruff Rhys ar ei daith fel artist unigol o amgylch Cymru y flwyddyn honno. 

Mae’r EP yn cynnwys pedair cyfyr o ganeuon MC Mabon wedi eu perfformio mewn arddull cerdd dant a chyd adrodd sef ‘Nes I Ofyn Am Chips’, ‘Myddyffycys Yn Bob Man’, ‘Rhagbrofion’ (can wreiddiol newydd) a ‘Tiwn Gron’. 

Aelodau’r grŵp oedd Lowri Johnston, Menna Machreth Jones, Gwenllian Glyn, Branwen Llywelyn, Osian Llywelyn, Gruff Glyn ac Andras Iago. 

Recordiwyd yr EP mewn un diwrnod yn stiwdio Blaen y Cae, Garndolbenmaen gyda Gruff Meredith a Dyl Mei yn cynhyrchu.

 

Gadael Ymateb