Rhyddhau sengl ddiweddaraf Bethzienna

Mae’r artist amryddawn, Bethzienna,wedi rhyddhau ei sengl ddiweddaraf yn y Gymraeg. 

Môr o Gariadydy enw’r cynnig diweddaraf ganddi sy’n ddilyniant i’w senglau diweddar ar label Côsh. 

Mewn ychydig dros dri mis, mae Bethzienna wedi rhyddhau tair sengl Gymraeg sef, ‘Se Ti’n Fy Ngharu’, ‘Creep’ a ‘Dacw Nghariad’, gan nodi dychweliad cryf i gerddoriaeth Gymraeg ar ôl mwy na degawd. 

Rŵan, mae hi’n dod â’r bennod honno ymlaen gyda ‘Môr o Gariad’, y bedwaredd sengl mewn cyfres drawiadol o ryddhau cerddoriaeth newydd.

Wedi dod i amlygrwydd ar gyfres deledu Wawffactor’ S4C cyn cyrraedd rowndiau olaf The Voice UK ar dîm Tom Jones, mae Bethzienna yn artist sydd wedi profi ei hun ar lwyfannau mawr. 

Ers ymuno â Recordiau Côsh, mae hi wedi adeiladu momentwm go iawn, gyda mwy o gerddoriaeth newydd i ddod yn fuan. Ar hyn o bryd mae hi’n gweithio ar ddeunydd newydd gyda Yws Gwynedd a Rich James Roberts yn stiwdio Ferlas, Penrhyndeudraeth.

Gadael Ymateb