Sengl newydd Hedd Fôn

Mae’r cerddor o Ddyffryn Conwy, Hedd Fôn, wedi rhyddhau ei sengl unigol ddiweddaraf.

Daeth Hedd i amlygrwydd fel canwr a gitarydd y grŵp Yr Anghysur, ond yn gynharach eleni bu iddo ryddhau ei sengl unigol gyntaf, sef ‘Cwm Brwynog’.

Nawr mae Hedd yn ôl gyda sengl unigol arall o’r enw ‘Yr Angladd’ sydd allan ar label Recordiau RWST.

Mae geiriau’r trac wedi eu cyfansoddi gan Austin ‘Tan-rhallt’ Roberts. 

Gadael Ymateb