Bydd yr artist gweithgar a chyffrous, Mali Hâf, yn dychwelyd gyda’i sengl ddiweddaraf ddydd Gwener nesaf, 13 Chwefror.
‘Muse’ ydy enw’r sengl ethereal indie-pop dyner a theimladwy newydd ganddi sydd allan ar label Côsh.
Wedi’i hysgrifennu yn Nhŷ Ddewi, cychwynnodd ‘Muse’ wrth y piano, gyda Mali yn cael ei hysbrydoli gan y darlun oedd uwch ei phen, cyn ei gorffen yn ystod teithiau cerdded ar hyd Traeth Caerfai.
Cân ddofn a phersonol gan Mali felly, wedi’i hysgrifennu mewn cyfnod lle mae’r byd yn dysgu beth mae’n ei olygu i greu.
Cafodd y gân ei hysbrydoli’n rhannol gan y berthynas rhwng Bill a Frank yn The Last of Us a’r syniad o garu rhywun gymaint nes eu bod yn dod yn rhan annatod o’ch bywyd.
“Dydw i erioed wedi bod yn ‘muse’ i neb,” meddai Mali, “ond fel artist, os wyt ti’n dod yn gariad i mi ac yn byw y tu mewn i’m crefft am byth, mae hynny’n teimlo fel math gwahanol o ymroddiad.”
Dyma’r sengl gyntaf i Mali ei ryddhau ar Côsh sydd wedi’i gynhyrchu gan Dontheprod, ac mae’n edrych fel partneriaeth fydd yn blaguro dros y misoedd nesaf.