Mae label Bubblewrap wedi cyhoeddi rhagor o gopïau ‘test pressings’ o recordiau feinyl y label i’w prynu gan y cyhoedd, gyda’r nod o gefnogi’r argyfwng yn Gaza.
Dywed y label eu bod eisoes wedi codi £1000 tuag at Mėdecins Sans Frontières sy’n helpu pobl sydd wedi cael eu heffeithio gan y rhyfela yn Gaza.
Maent eisoes wedi bod yn gwerthu test pressings, sef y copïau ‘prawf’ o recordiau feinyl mae labeli yn eu derbyn i wneud yn siŵr eu bod nhw’n iawn cyn i’r fersiynau terfynol gael eu gwasgu, gan sawl artist. Y recordiau prawf diweddaraf iddynt roi ar werth ydy’r rhai ar gyfer y record ‘Haf’ gan Carwyn Ellis & Rio 18, a ‘Stood Out in the Storm’ gan Ivan Mault.
Maent hefyd hefyd yn cynnig copi wedi’i lofnodi o test pressing ‘Beneath Strawberry Moons’ gan y band Gulp.
Mae modd archebu ar siop Bubblewrap.