Mae’r ddeuawd newydd, Madryn, wedi rhyddhau eu sengl gyntaf.
‘Rhywbeth yn Rhywle’ ydy enw’r trac newydd sydd allan ar y label sy’n rhannu enw’r ddeuawd.
Madryn ydy’r bartneriaeth gerddorol newydd rhwng y cerddorion Elin Madden a Tegid Rhys.
Mae Elin yn adnabyddus fel chwaraewr cello dawnus sydd wedi ymddangos ar raglenni teledu, ac sy’n rhoi gwersi llinynnau mewn ysgolion yng Ngwynedd a Môn.
Yn wreiddiol o Ben Llŷn, mae Tegid Rhys Williams yn gerddor, canwr a chyfansoddwr sydd bellach yn byw yn Sir Fôn.
Mae Tegid wedi bod yn ysgrifennu a pherfformio cerddoriaeth ers blynyddoedd, gan ryddhau ei albwm unigol cyntaf, ‘Pam Fod y Môr Dal Yna?’, yn 2019, ac yna ‘Lle bu’r Afon yn Llifo’ yn 2023, y ddau ar ei label ei hun, Recordiau Madryn Records.