Mae’r artist ifanc o Gaernarfon, Keila, wedi rhyddhau ei sengl gyntaf ar label Recordiau Côsh.
‘Gweithio Allan’ ydy enw’r sengl newydd ganddi.
Daeth y gantores 19 oed i sylw drwy ei hymddangosiad ar Y Llais 2026, lle gwnaeth ei pherfformiad o gân Buddug, ‘Dal Dig’, argraff fawr ar y beirniaid a’r gwylwyr, gan ennill tro cadair gan sylfaenydd Recordiau Côsh, Yws Gwynedd.
Wedi’i recordio yn Stiwdio Ferlas, Penrhyndeudraeth, mae ‘Gweithio Allan’ yn cyflwyno artist ifanc cyffrous wedi ei dylanwadau arni gan Taylor Swift a Gracie Abrams a’i chyd-artist label, Buddug.
Gyda llais arbennig a gallu naturiol i gysylltu â’i chynulleidfa, mae Keila yn gwneud argraff gref gyda’i sengl gyntaf ac yn dangos pam ei bod yn un o’r artistiaid newydd mwyaf addawol yng Nghymru.
“Dwi mor falch fod Keila’n rhyddhau cerddoriaeth hi ei hun ar ôl ymddangos ar Y Llais” meddai Yws Gwynedd.
“Mae ‘Gweithio Allan’ yn gân sy’n dangos ei dawn ysgrifennu a’i llais pwerus a hyderus”