Tocynnau Gŵyl Dros y Bont ar werth

Bydd Gŵyl Dros y Bont 2026 yn cael ei chynnal ar nos Iau 15 Hydref a nos Wener 16 Hydref, gyda gigs ym Mhontarddulais ac yn yr Hendy. 

Menter Cwm Gwendraeth Elli sy’n cynnal yr ŵyl sy’n cynnwys perfformiadau gan nifer o artistiaid amlwg. 

Cleif Harpwood gyda Garaint Cynan a Rhiannon O’Connor fydd yn perfformio yng Nghlwb Rygbi Pontarddulais ar nos Iau 15 Hydref, ac yna byd cyfle i weld Chwaer, Bwca a Gwilym Bowen Rhys y noson ganlynol yng Nghanolfan Gwili yn Yr Hendy. 

Mae tocynnau ar werth nawr am £12 yr un, neu mae modd prynu tocynnau am y ddwy noson ar y cyd i arbed arian.

Dolen i archebu tocynnau: 

Gadael Ymateb