Cleif Harpwood yn rhyddhau trac coll Edward H

Mae Cleif Harpwood yn parhau â’i flwyddyn weithgar wrth iddo ryddhau ei sengl ddiweddaraf, ‘Ti’n hapus nawr?’. 

Stori’r rhwyg rhwng dau gariad sydd yn ‘Ti’n hapus nawr?’ a hynny i gyfeiliant ychydig o ‘sigl a chraig’, chwedl Dewi Pws, meddai Cleif. 

Dyma bumed sengl y canwr sy’n gyfarwydd fel prif ganwr y band poblogaidd o’r 1970au, Edward H Dafis, a dyma’r blas diweddaraf o’i albwm newydd fydd allan ym mis Gorffennaf. 

Mae ‘Ti’n hapus nawr?’ yn un o ganeuon coll Edward H Dafis – cân a gyfansoddwyd gan Cleif, Hefin Elis a Dewi ‘Pws’ Morris, a chân a berfformiwyd yn rheolaidd mewn gigs yng nghyfnod cynnar y band rhwng 1973 a 1976. 

Er iddi chwarae rhan amlwg ym mherfformiadau byw Edward H bryd hynny, ni chafodd ei recordio erioed, hyd nawr.

Fel y senglau blaenorol, recordiwyd ‘Ti’n hapus nawr?’ yn StiwdioOwz, Sir Benfro, a bydd rhagor o ganeuon i’w clywed dros yr wythnosau nesaf, cyn rhyddhau’r albwm cyfan.   

 

 

 

Gadael Ymateb