Mae’r band nu-metal dwy-ieithog o Fangor C E L A V I wedi rhyddhau eu sengl ddiweddaraf, ‘MORGANA’.
Cân Gymraeg llawn swyn ffyrnig, riffiau wedi’u dad-diwnio a bygythiad gothig ydy ‘MORGANA’ sydd allan ers dydd Gwener diwethaf 13 Mawrth..
Mae ‘MORGANA’ yn llawn awyrgylch arswydus sy’n seiliedig ar karma a chanlyniadau gweithred, mae’n cyfuno nu-metal cynnar y 2000au gyda naws gothig modern.
“Fel band, rydym yn sefyll dros hunanwerth, dilysrwydd, a bod chi’ch hun heb ymddiheuro” meddai Sarah o’r band.
“Mae MORGANA yn archwilio’r syniad na allwch ddianc rhag yr hyn rydych yn ei roi allan i’r byd – mae karma yn gwylio.”
Ail aelod C E L A V I ydy Gwion, sy’n egluro bod y sengl ddiweddaraf yn drac gothig tywyll arall gan y ddeuawd.
“O ran sŵn, mae MORGANA yn dywyll, yn drwm a bron yn ritualisti” meddai Gwion.
“Mae sŵn nu-metal C E L A V I i’w glywed yn glir, ond gyda naws gothig arswydus, a theimlad gormesol.”
Mae ‘MORGANA’ wedi ei ryddhau ar y label recordiau annibynnol MERAKI ynghyd â fideo cerddoriaeth.
“Fe wnaethon ni ffilmio MORGANA yn yr awyr agored yn y goedwig i ddal ei esthetig gothig, witchy” eglrua Sarah.
“Roedd yn brofiad anhygoel – ac roedd ffilmio’r fideo ym mis Ionawr mewn amodau o -2°C yn ychwanegu ymyl amrwd ac authentic i’r delweddau. Metal go iawn!”
Mae C E L A V I yn paratoi ar gyfer 2026 cyffrous, wedi eu henwi’n ddiweddar fel un o enillwyr Seiniau Miwsig 2026 Cymru – a ddewiswyd trwy bleidlais gyhoeddus a ledled y diwydiant.
Mae’r ddeuawd yn edrych ymlaen at berfformio ar lwyfannau ledled Cymru a Lloegr, ar ôl headlinio yng Nghlwb Roc Fuel Caerdydd ar Ddydd Gŵyl Dewi, byddant yn chwarae yn FOCUS Wales, Wrecsam, yn cefnogi’r artist a chynhyrchydd metal amgen n0trixx, a chefnogi’r band adnabyddus o Nottingham, As December Falls, yng Nghastell Cas-gwent ym mis Awst 2026 – sioe garreg filltir yn nodi’r bennod nesaf y band.
Gigs C E L A V I
21 Mawrth – Y Llusern Hud, Tywyn
3 Ebrill – Cefnogi n0trixx yn Green Rooms, Trefforest
25 Ebrill – Y Skerries, Bangor
7 Mai – FOCUS Wales, The Rockin’ Chair, Wrecsam
15 Awst – Cefnogi As December Falls yng Ngastell Cas-gwent
7 Tachwedd – Hangar 18 Music Venue, Abertawe