Mae Achlysurol wedi rhyddhau’r blas diweddaraf o’u halbwm newydd fydd allan fis nesaf.
‘Unwaith’ ydy enw’r ail sengl o’r albwm i lanio, ac mae’n dilyn ‘Pan Mae’r Haul yn Machlud’ sydd, yn ôl label y band, wedi hoelio sylw gwrandawyr brwd y sin gerddoriaeth yng Nghymru.
Bydd albwm cyntaf y band ar Recordiau Côsh yn cael ei ryddhau fis Ebrill, gydag un sengl arall i ddilyn ddiwedd mis yma.
Mae gig i lansio’r albwm wedi’i drefnu yn ardal Caernarfon ar ddechrau mis Mai, gyda’r gobaith fod yr albwm am fod ar gael ar feinyl hefyd erbyn hynny.
Mae cwpl o fisoedd prysur o flaen i’r band o Felinheli felly, band sydd wedi bygwth torri drwodd ers blynyddoedd, a sydd bellach i’w gweld yn mynd amdani.
Mae ‘Unwaith’ yn un o draciau mwyaf egnïol yr albwm fydd yn dwyn yr enw ‘Noson Braf i Fynd Am Dro’, sy’n record arddull draddodiadol gyda stori yn llifo drwyddi.
Mae cyfweliad gydag Achlysurol yn rhifyn diweddaraf cylchgrawn Y Selar sydd ar gael o’r mannau arferol nawr.