Mae Casi wedi rhyddhau ei sengl newydd sy’n cynnwys ymddangosiad arbennig gan gerddor cyfarwydd iawn.
‘Mynydd yr Olewydd’ ydy enw’r trac diweddaraf gan Casi, ac mae’n cynnwys llais neb llai na Tecwyn Ifan sy’n cyd-ganu ar y trac.
“Diolch Tecwyn Ifan am dderbyn y gwahoddiad i gyd-ganu ar Mynydd yr Olewydd. Braint cael deuawdu gyda llais mor eneidiol ac ysbrydoledig” meddai Casi am y bartneriaeth.
Daw’r sengl newydd wrth iddi baratoi i ryddhau ei halbwm cyntaf, ‘Plentyn yr Haul’, fydd allan ar 27 Mawrth.